Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Rhagfyr
“Rydyn ni’n siarad â phobl yn yr ardal ac yn trafod y cwestiwn diddorol hwn.” Dangoswch y traethodyn Beth Sy’n Gwneud Teulu yn un Hapus? “Pa un o’r atebion yma fyddech chi’n ei ddewis?” Dangoswch yr opsiynau ac arhoswch am yr ymateb. Trafodwch y wybodaeth o dan yr is-bennawd “Mae’r Beibl yn Dweud” sy’n dyfynnu Luc 11:28. Cynigiwch y traethodyn a threfnwch i fynd yn ôl i drafod y wybodaeth o dan yr is-bennawd “Cwestiwn i Feddwl Amdano.”
The Watchtower Rhagfyr 1
“Galw rydyn heddiw i siarad â phobl am Dduw. Wrth gwrs mae gan bawb ei farn ei hun am Dduw. Ydych chi’n meddwl bod pobl yn gweld Duw fel grym amhersonol, neu fel ffrind da sy’n eu caru nhw? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r adnod yma yn y Beibl yn dangos pa fath o berthynas mae Duw eisiau inni ei chael gydag ef. [Darllenwch Iago 4:8a.] Mae’r cylchgrawn yma yn trafod tri pheth gallwn ni eu gwneud i deimlo’n agosach at Dduw.”
Awake! Rhagfyr
“Rydyn ni’n galw i drafod problem iechyd sy’n gyffredin iawn erbyn hyn. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd mae afiechydon meddwl, fel iselder, yn effeithio ar un mewn pob pedwar ohonon ni rywbryd yn ein bywydau. Ydych chi’n meddwl bod afiechydon meddwl yn fwy cyffredin y dyddiau hyn? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r Beibl yn rhoi’r gobaith inni y bydd pob afiechyd a phoen yn diflannu yn y dyfodol. [Darllenwch Datguddiad 21:3, 4.] Mae’r cylchgrawn yma yn trafod ychydig o bethau am afiechydon meddwl y dylen ni i gyd wybod amdanyn nhw.”