Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Mai
“Rydyn ni’n siarad â phobl yn yr ardal ac yn trafod y cwestiwn diddorol hwn.” Dangoswch y traethodyn Pwy Sy’n Rheoli’r Byd? “Yn eich barn chi, pa un o’r atebion yma ydy’r un sy’n ateb y cwestiwn?” Dangoswch yr opsiynau ar gael ac arhoswch am ymateb. Trafodwch y wybodaeth o dan y rhan “Mae’r Beibl yn Dweud” a 1 Ioan 5:19. Cynigiwch y traethodyn a threfnwch i drafod y cwestiwn o dan y rhan “Cwestiwn i Feddwl Amdano.”
The Watchtower Mai 1
“Mae gan y rhan fwyaf ohonon ni ddiddordeb yn y dyfodol. Wrth ystyried y dyfodol, sut rydych chi’n teimlo? Yn hyderus, neu’n bryderus? [Arhoswch am ymateb. Wedyn, darllenwch un o’r adnodau o’r blwch “What God Has Revealed About the Future.”] Mae’r cylchgrawn hwn yn sôn am rai pethau fydd yn digwydd yn y dyfodol, a pham rydyn ni’n gallu bod yn sicr o hynny.”
Awake! Mai
“Rydyn ni’n siarad â phobl yn yr ardal i’w helpu nhw i reoli straen. Ydych chi’n meddwl bod pobl o dan fwy o bwysau heddiw nag oedden nhw yn y gorffennol? [Arhoswch am ymateb.] Mae llawer wedi darganfod bod cyngor ymarferol y Beibl wedi eu helpu nhw i reoli eu straen. Dyma un enghraifft. [Darllenwch Mathew 6:34.] Mae’r cylchgrawn hwn yn egluro sut mae egwyddorion y Beibl yn gallu ein helpu ni i reoli pedwar achos straen.”
Nodwch: Efallai bydd y rhifyn hwn o ddiddordeb arbennig i bobl fusnes.