LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb24 Gorffennaf tt. 10-16
  • Awst 5-11

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Awst 5-11
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2024
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2024
mwb24 Gorffennaf tt. 10-16

AWST 5-11

SALMAU 70-72

Cân 59 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)

TRYSORAU O AIR DUW

1. Dyweda “Wrth y Genhedlaeth Sydd i Ddod” am Nerth Duw

(10 mun.)

Gwelodd Dafydd fod Jehofa wedi ei amddiffyn pan oedd yn ifanc (Sal 71:5; w99-E 9/1 18 ¶17)

Teimlodd Dafydd gefnogaeth Jehofa pan oedd yn hen (Sal 71:9; g04-E 10/8 23 ¶3)

Anogodd Dafydd bobl ifanc drwy rannu ei brofiadau â nhw (Sal 71:​17, 18; w14-E 1/15 23 ¶4-5)

Y teulu o wythnos ddiwethaf yn y rhan “Egwyddorion ar Gyfer Addoliad Teuluol.” Maen nhw wedi gofyn i gwpl hŷn ddod draw am addoliad teuluol ac maen nhw’n mwynhau gwrando wrth i’r cwpl ddangos ffotograffau ac yn adrodd eu profiadau.

GOFYNNA I TI DY HUN: ‘Pwy yn y gynulleidfa sydd wedi gwasanaethu Jehofa am flynyddoedd alla i gyfweld â nhw fel rhan o Addoliad Teuluol?’

2. Cloddio am Drysor Ysbrydol

(10 mun.)

  • Sal 72:8—Sut cafodd addewid Jehofa i Abraham yn Genesis 15:18 ei gyflawni yn ystod teyrnasiad y Brenin Solomon? (it-1-E 768)

  • Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?

3. Darlleniad o’r Beibl

(4 mun.) Sal 71:​1-24 (th gwers 5)

RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH

4. Dechrau Sgwrs

(3 mun.) O DŶ I DŶ. Wrth i’r person ddechrau cweryla, dod â’r sgwrs i ben ar nodyn positif. (lmd gwers 4 pwynt 5)

5. Parhau â’r Sgwrs

(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Parha â sgwrs gyda pherthynas sydd ddim yn siŵr am un o’n dysgeidiaethau ac sy’n dal yn ôl rhag astudio’r Beibl. (lmd gwers 8 pwynt 4)

6. Egluro Dy Ddaliadau

(5 mun.) Anerchiad. ijwfq 49—Thema: Pam Mae Tystion Jehofa Wedi Newid Rhai o’u Daliadau? (th gwers 17)

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cân 76

7. Syniadau ar Gyfer Addoliad Teuluol

(15 mun.) Trafodaeth.

Y teulu a ddangoswyd yn gynt yn sefyll ac yn ymarfer un o ganeuon y Deyrnas.
Y teulu yn gwylio un o raglenni JW Broadcasting.
Un o ferched y teulu yn ymateb i’w mam yn ystod sesiwn ymarfer.

Mae Addoliad Teuluol yn gyfle arbennig i blant ddysgu ‘disgyblaeth a hyfforddiant Jehofa.’ (Eff 6:4) Er bod dysgu yn gofyn am ymdrech, gall fod yn brofiad hwylus, yn enwedig wrth i blant feithrin yr awydd i ddysgu mwy am y Beibl. (In 6:27; 1Pe 2:2) Adolyga’r blwch “Awgrymiadau ar Gyfer Addoliad Teuluol,” a all helpu rhieni i wneud Addoliad Teuluol yn effeithiol ac yn hwyl, ac yna gofynna’r cwestiynau canlynol:

  • Pa awgrymiadau hoffet ti eu trio?

  • A wyt ti wedi dod ar draws syniadau da eraill?

AWGRYMIADAU AR GYFER ADDOLIAD TEULUOL

Y BEIBL:

  • Darllen yn uchel neu wrando ar recordiad sain y darlleniad wythnosol o’r Beibl. Gall pob aelod o’r teulu chwarae rôl cymeriadau gwahanol o’r darlleniad

  • Paratoi cwestiynau ar gyfer y darlleniad wythnosol o’r Beibl. Gall aelodau’r teulu ddewis cwestiwn yr un, gwneud ymchwil arno, ac yna rhannu’r hyn maen nhw wedi ei ddysgu

  • Meddwl am gwestiwn neu sefyllfa a all godi, ac yna chwilio am egwyddorion Beiblaidd perthnasol yn Adnodau ar Gyfer Bywyd Cristnogol

  • Actio allan un o hanesion y Beibl

  • Ceisio dysgu adnod wahanol ar gof bob wythnos drwy baratoi cerdyn fflach. Gelli di ddefnyddio’r adnodau sydd yn atodiad A o’r llyfryn Caru Pobl—Gwneud Disgyblion. Adolygu cardiau fflach o’r wythnosau cynt

  • Astudio rhan o’r llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth!

  • Aseinio aelodau’r teulu i gyflwyno adroddiad ar erthygl o’r gyfres “Atebion i Gwestiynau am y Beibl” yn y tab DYSGEIDIAETHAU’R BEIBL ar jw.org

Y CYFARFODYDD:

  • Paratoi ar gyfer rhan o’r cyfarfod

  • Paratoi, ymarfer, ac amseru atebion ar gyfer cyfarfod

  • Ymarfer caneuon y Deyrnas

  • Trafod ac ymarfer beth i’w ddweud i galonogi rhywun cyn neu ar ôl y cyfarfod nesaf

  • Ymarfer aseiniad myfyriwr o flaen y teulu

Y WEINIDOGAETH:

  • Paratoi ar gyfer pregethu o dŷ i dŷ

  • Paratoi ar gyfer ail alwadau

  • Dychmygu sefyllfa anffurfiol, ac yna ymarfer sut i ddechrau sgwrs gyfeillgar

  • Trafod amcanion penodol i wneud mwy yn y weinidogaeth yn ystod adeg y Goffadwriaeth neu wyliau o’r ysgol neu’r gwaith

ANGHENION Y TEULU:

  • Ymarfer sut i ddelio â sefyllfa sydd wedi codi neu sy’n debygol iawn o ddigwydd, fel rhai sy’n cynnwys niwtraliaeth, bwlio, canlyn, neu wyliau paganaidd

  • Cael y plant i chwarae rôl y rhieni. Dylai’r plant gwneud ymchwil ar bwnc ac yna rhesymu arno gyda’u rhieni

AWGRYMIADAU YCHWANEGOL:

  • Gwylio a thrafod rhaglen JW Broadcasting®

  • Darllen erthygl neu wylio fideo ar jw.org a’i drafod

  • Ystyried rhywbeth o’r rhan “Arddegau ac Oedolion Ifanc” neu “Plant” yn y tab DYSGEIDIAETHAU’R BEIBL ar jw.org

  • Adolygu nodiadau o gynhadledd neu gynulliad

  • Edrych ar rywbeth mae Jehofa wedi ei greu neu wneud ymchwil arno, ac yna trafod beth mae’n ei ddysgu inni am Jehofa

  • Gwahodd rhywun i ymuno â chi o bryd i’w gilydd a’i gyfweld

  • Gosod amcanion ysbrydol a thrafod sut i’w cyrraedd

  • Gweithio ar brosiect, er enghraifft creu model, map, neu siart

Dangosa’r FIDEO Parhau i Wella Addoliad Teuluol. Yna gofynna i’r gynulleidfa:

  • Sut gall gŵr helpu ei wraig i fwynhau addoliad teuluol pan does ’na ddim plant yn y tŷ?

8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa

(30 mun.) bt-E pen. 2 ¶16-23; btq pen. 2

Sylwadau i Gloi (3 mun.) | Cân 103 a Gweddi

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu