MEDI 29–HYDREF 5
PREGETHWR 3-4
Cân 93 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
Treuliwch amser gyda’ch gilydd a gyda Jehofa
1. Cryfhau Eich Rhaff Deircainc
(10 mun.)
Gwnewch amser ar gyfer sgyrsiau calonogol a phwysig (Pre 3:1; ijwhf erthygl 10 ¶2-8)
Gwnewch bethau gyda’ch gilydd (Pre 4:9; w23.05 23-24 ¶12-14)
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cryfhau eich perthynas â Jehofa (Pre 4:12; w23.05 21 ¶3)
GOFYNNA I TI DY HUN: ‘Petaswn i’n treulio llawer o amser i ffwrdd o fy nghymar oherwydd gwaith seciwlar neu fynd ar wyliau ar wahân, pa effaith gallai ei chael ar fy mhriodas?’
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
Pre 3:8—Pam mae’r adnod hon yn dweud bod ’na “amser i garu ac amser i gasáu”? (it-E “Love” ¶39)
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Pre 4:1-16 (th gwers 2)
4. Dechrau Sgwrs
(3 mun.) O DŶ I DŶ. Defnyddia’r Tŵr Gwylio Rhif 1 2025 i ddechrau sgwrs. Addasa dy gyflwyniad pan mae’r person yn dangos diddordeb mewn pwnc arall. (lmd gwers 2 pwynt 5)
5. Parhau â’r Sgwrs
(4 mun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Cynigia astudiaeth Feiblaidd i rywun a wnaeth dderbyn y Tŵr Gwylio Rhif 1 2025. (lmd gwers 9 pwynt 4)
6. Anerchiad
(5 mun.) lmd atodiad A pwynt 12—Thema: Mae Duw yn Deg; Nid Yw’n Dangos Ffafriaeth. (th gwers 19)
Cân 131
7. Wrth Wynebu Problemau Priodasol, Trystia Arweiniad Jehofa
(15 mun.) Trafodaeth.
Mae Jehofa wedi rhoi popeth sydd ei angen ar gyplau Cristnogol er mwyn iddyn nhw fwynhau priodas hapus a llwyddiannus. Er hynny, bydd cyplau priod yn wynebu problemau o bryd i’w gilydd. (1Co 7:28) Heb roi sylw iddyn nhw, gall y problemau hynny deimlo’n amhosib i’w datrys ac achosi poen emosiynol ofnadwy. Beth os wyt ti’n wynebu problemau o’r fath yn dy briodas di?
Gwnaeth y dramateiddiad What Is True Love? ddangos cwpl ifanc yn wynebu problemau priodasol difrifol. A wyt ti’n cofio’r cyngor roddodd y dad i’w ferch pan oedd hi ar fin gwneud penderfyniad heb ystyried safbwynt Jehofa?
Dangosa’r FIDEO What Is True Love?—Excerpt. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
Pam dylen ni ddibynnu ar arweiniad Jehofa wrth wynebu problemau priodasol?—Esei 48:17; Mth 19:6
Os wyt ti’n profi problemau difrifol yn dy briodas di, gwna’n siŵr dy fod ti’n parhau i agosáu at Jehofa drwy gadw rwtîn ysbrydol da. Gweithia’n galed i ddatrys dy broblemau drwy ddefnyddio egwyddorion Beiblaidd, ac edrycha am wybodaeth yn ein cyhoeddiadau a all dy helpu di i weld sut mae Jehofa’n teimlo am dy sefyllfa. Drwy wneud hynny, byddi di’n agor y drws i gefnogaeth a bendith Jehofa.—Dia 10:22; Esei 41:10.
Dangosa’r FIDEO Peidiwch â Chael Eich Twyllo gan Heddwch Ffug!—Darrel a Deborah Freisinger. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
Beth rwyt ti’n ei ddysgu o brofiad y Brawd a Chwaer Freisinger ynglŷn â delio â phroblemau priodasol difrifol?
8. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa
(30 mun.) bt pen. 21 ¶8-13, blwch ar t. 169