HYDREF 6-12
PREGETHWR 5-6
Cân 42 a Gweddi | Sylwadau Agoriadol (1 mun.)
Grŵp o Israeliaid yn gwrando’n astud wrth i offeiriad esbonio’r Gyfraith
1. Sut Rydyn Ni’n Dangos Parch Dwfn at Ein Duw
(10 mun.)
Rydyn ni’n dangos parch yn y cyfarfodydd drwy wrando a thrwy ddewis ein gwisg a thrwsiad yn ofalus (Pre 5:1; w08-E 8/15 15-16 ¶17-18)
Pan ydyn ni’n gweddïo’n gyhoeddus, dylen ni fod yn barchus a dal yn ôl rhag siarad gormod (Pre 5:2; w09-E 11/15 11 ¶21)
Rydyn ni’n byw yn unol â’n hymgysegriad (Pre 5:4-6; w17.04 6 ¶12)
2. Cloddio am Drysor Ysbrydol
(10 mun.)
Pre 5:8—Sut gall yr adnod hon ein cysuro ni wrth wynebu anghyfiawnder? (w20.09 31 ¶3-5)
Pa drysorau ysbrydol hoffet ti eu rhannu â ni o ddarlleniad y Beibl yr wythnos hon?
3. Darlleniad o’r Beibl
(4 mun.) Pre 5:1-17 (th gwers 12)
4. Dechrau Sgwrs
(1 mun.) O DŶ I DŶ. Mae’r person eisiau dadlau. (lmd gwers 4 pwynt 5)
5. Dechrau Sgwrs
(2 fun.) TYSTIOLAETHU’N ANFFURFIOL. Rhanna un o’r “Gwirioneddau Sy’n Bleser i’w Rhannu” yn atodiad A o’r llyfryn Caru Pobl. (lmd gwers 1 pwynt 3)
6. Parhau â’r Sgwrs
(3 mun.) O DŶ I DŶ. Cyflwyna a thrafod fideo o’r Bocs Tŵls Dysgu. (lmd gwers 7 pwynt 3)
7. Gwneud Disgyblion
Cân 160
8. A Wyt Ti’n Defnyddio “Gwirioneddau Sy’n Bleser i’w Rhannu”?
(15 mun.) Trafodaeth.
Ers iddo gael ei ryddhau, mae’r llyfryn Caru Pobl—Gwneud Disgyblion wedi ein helpu ni i ddatblygu’r sgìl o ddechrau sgyrsiau. Cafodd atodiad A ei ddylunio i’n helpu ni i gyflwyno gwirioneddau syml o’r Beibl wrth inni sgwrsio ag eraill. (Heb 4:12) A wyt ti’n gyfarwydd â’r naw pwnc o dan “Gwirioneddau Sy’n Bleser i’w Rhannu”?
Sut gallwn ni gyflwyno gwirionedd syml o’r Beibl ar amser priodol mewn sgwrs?—lmd atodiad A
Pa bynciau sy’n fwyaf effeithiol yn dy ardal?
Beth gelli di ei wneud i ddod yn fwy cyfarwydd â’r adnodau yn atodiad A?
Y mwyaf rydyn ni’n defnyddio’r adnodau hyn yn y weinidogaeth, y mwyaf byddan nhw’n dod yn gyfarwydd inni. Ond yn gyntaf, er mwyn eu defnyddio nhw’n rheolaidd, mae’n rhaid inni gysylltu â’r bobl yn ein tiriogaeth.
Dangosa’r FIDEO “Haearn yn Hogi Haearn”—Cyrraedd Mwy o Bobl. Yna gofynna i’r gynulleidfa:
Beth all ein helpu ni i siarad â mwy o bobl yn ein tiriogaeth?
9. Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa
(30 mun.) bt pen. 21 ¶14-22