LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp25 Rhif 1 tt. 14-15
  • Cael Hyd i Heddwch Er Gwaethaf Rhyfel a Gwrthdaro Arfog

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Cael Hyd i Heddwch Er Gwaethaf Rhyfel a Gwrthdaro Arfog
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2025
  • Erthyglau Tebyg
  • Creulondeb Rhyfel
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2025
  • Heddwch—Sut Gelli Di Ddod o Hyd Iddo?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2018
  • Sut Mae Duw yn Teimlo am Eich Dioddefaint?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2018
  • Sut Bydd Rhyfel a Gwrthdaro Arfog yn Dod i Ben
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2025
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2025
wp25 Rhif 1 tt. 14-15
Dyn hŷn a gollodd ei freichiau mewn rhyfel, yn eistedd mewn cadair olwyn ac yn mwynhau pryd o fwyd gyda’i deulu yn yr awyr agored.

Cael Hyd i Heddwch Er Gwaethaf Rhyfel a Gwrthdaro Arfog

“Cyn imi astudio’r Beibl,” meddai Gary, a oedd yn arfer bod yn y lluoedd arfog, “do’n i ddim yn deall pam bod cymaint o greulondeb, anghyfiawnder, a helynt yn y byd. Ond rŵan mae gen i heddwch meddwl. Dw i’n gwybod y bydd Jehofa Dduw yn gwneud y byd yn lle diogel.”

Nid Gary yw’r unig un sy’n teimlo fel hyn. Ystyriwch sut mae’r Beibl wedi helpu eraill.

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Rwyt ti, ARGLWYDD, yn dda ac yn maddau.”—Salm 86:5.

SUT MAE HYN YN HELPU? “I mi, mae’r adnod hon yn dweud bod Jehofa’n drugarog. Dw i’n gwybod ei fod yn barod i faddau imi am yr holl bethau wnes i pan o’n i’n ymladd mewn rhyfel.”—Wilmar, Colombia.

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Dw i’n mynd i greu nefoedd newydd a daear newydd! Bydd pethau’r gorffennol wedi eu hanghofio; fyddan nhw ddim yn croesi’r meddwl.”—Eseia 65:17.

SUT MAE HYN YN HELPU? “Oherwydd fy mhrofiadau yn y lluoedd arfog, dw i’n dioddef o anhwylder straen ôl-drawmatig ac iselder. Ond mae’r adnod hon yn addo y bydd Jehofa yn tawelu fy meddyliau annifyr ac yn stopio’r hunllefau. Fyddan nhw ddim bellach yn llechu yn fy meddwl nac yn fy nghalon. Mae hynny yn rhodd arbennig!”—Zafirah, Unol Daleithiau.

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Gwna i gyfiawnder lwyddo yn ei ddyddiau, ac i heddwch gynyddu tra bo’r lleuad yn yr awyr.”—Salm 72:7.

SUT MAE HYN YN HELPU? “Dw i’n meddwl am y geiriau hynny yn aml. Yn fuan, bydd rhyfel a’r pethau erchyll sy’n digwydd yn dod i ben, a fyddwn ni ddim yn gorfod poeni am ddiogelwch ein hanwyliaid.”—Oleksandra, Wcráin.

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Bydd dy feirw di yn dod yn fyw! . . . Deffrwch a chanwch yn llawen, chi sy’n byw yn y pridd!”—Eseia 26:19.

SUT MAE HYN YN HELPU? “Cafodd bron pawb yn fy nheulu eu lladd yn ystod yr hil-laddiad yn erbyn y Tutsi. Ond mae’r adnod hon yn addo y bydda i’n eu gweld nhw eto. Dw i’n edrych ymlaen at glywed eu lleisiau hapus pan gân nhw eu hatgyfodi!”—Marie, Rwanda.

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Fydd y rhai drwg ddim i’w gweld yn unman mewn ychydig! . . . Y rhai sy’n cael eu cam-drin fydd yn meddiannu’r tir, a byddan nhw’n mwynhau heddwch a llwyddiant.”—Salm 37:​10, 11.

SUT MAE HYN YN HELPU? “Er bod y rhyfel wedi dod i ben, mae anghyfiawnder yn parhau, ac mae pobl ddrwg yn dal yma. Mae’r adnodau hyn wedi bod yn help mawr imi. Mae Jehofa yn gweld popeth ac mae’n deall fy sefyllfa. Mae’n addo y bydd dioddefaint yn dod i ben yn fuan, a byddwn ni’n gallu anghofio amdano.”—Daler, Tajikistan.

Mae’r bobl sy’n cael eu dyfynnu yn y cylchgrawn hwn ymhlith y miliynau o Dystion Jehofa sydd wedi dod o hyd i heddwch drwy astudio’r Beibl. Maen nhw wedi dysgu sut i oresgyn pob casineb, boed hynny yn bersonol neu oherwydd hil, cenedl, neu lwyth. (Effesiaid 4:​31, 32) Mae Tystion Jehofa yn aros yn wleidyddol niwtral, ac yn gwrthod cymryd rhan mewn unrhyw drais.—Ioan 18:36.

Mae Tystion Jehofa hefyd yn rhan o deulu byd-eang sy’n cefnogi ei gilydd. (Ioan 13:35) Er enghraifft, roedd yn rhaid i Oleksandra, a ddyfynnwyd yn gynharach, ffoi gyda’i chwaer i wlad arall oherwydd rhyfel. Mae hi’n dweud: “Yn syth ar ôl inni groesi’r ffin, roedd y Tystion lleol yno i’n croesawu. Roedd eu cefnogaeth yn ein helpu ni i addasu i’n bywydau newydd fel ffoaduriaid.”

Estynnwn groeso cynnes ichi ymuno â ni yn ein cyfarfodydd lle rydyn ni’n dysgu am neges heddychlon y Beibl a sut i’w rhoi ar waith. Ewch i jw.org i weld lle mae’r cyfarfod agosaf neu i drefnu i astudio’r Beibl am ddim gydag un o Dystion Jehofa, gan ddefnyddio’r llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth!

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu