Byd Mewn Helynt—Sut Gallwch Chi Ymdopi?
Ydych chi’n teimlo bod problemau’r byd yn effeithio arnoch chi’n bersonol yn fwy nag erioed? Ydy rhai o’r pethau canlynol yn gyffredin yn eich ardal chi?
rhyfeloedd
epidemigau
trychinebau naturiol
tlodi
rhagfarn
trosedd dreisgar
Pan mae rhywbeth ofnadwy yn digwydd, mae llawer o ddioddefwyr yn teimlo sioc ac anobaith. Mae trasiedi yn gallu achosi i rai pobl deimlo dim byd o gwbl. Ond, wrth inni wynebu trychineb, mae bod mewn sioc a theimlo’n ddi-emosiwn am amser hir yn gwneud pethau’n waeth.
Os ydych chi yng nghanol helynt, mae’n rhaid ichi weithredu i warchod y rhai rydych chi’n eu caru, eich iechyd, eich bywoliaeth, a’ch hapusrwydd.
Beth gallwch chi ei wneud nawr i leihau effaith helyntion y byd arnoch chi’n bersonol?