YMDOPI Â’R CYNNYDD MEWN PRISIAU
Derbyn y Sefyllfa
Weithiau fyddwn ni ddim yn sylwi pan fydd prisiau’n codi’n araf deg, yn enwedig os bydd cyflogau’n codi hefyd. Ond pan fydd prisiau’n codi’n sydyn a chyflogau’n aros yr un fath, mae’n hawdd dechrau poeni, yn enwedig os ydyn ni’n magu plant neu’n gofalu am aelodau teulu eraill.
Allwn ni ddim atal prisiau rhag codi. Ond drwy dderbyn y sefyllfa, gallwn ni wneud pethau a fydd yn helpu.
PAM MAE’N BWYSIG?
Os ydyn ni’n edrych ar brisiau cynyddol mewn ffordd realistig bydd hi’n haws . . .
peidio â chynhyrfu. Byddwn ni’n meddwl yn gliriach ac yn gwneud penderfyniadau gwell.
osgoi arferion drwg. Er enghraifft, peth ffôl fyddai anwybyddu biliau neu brynu pethau nad oes mo’u hangen.
osgoi ffraeo am arian ag aelodau teulu.
gweld ffyrdd i ymdopi, gan gynnwys newid ein blaenoriaethau a’r ffordd rydyn ni’n gwario arian.
BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?
Byddwch yn fodlon addasu. Pan fydd prisiau’n codi’n sydyn, y peth call i’w wneud, os oes modd, ydy gwario llai. Mae rhai’n ceisio byw mewn ffordd na allan nhw ei fforddio. Mae hynny yn debyg i geisio nofio yn erbyn y llif mewn afon fyrlymus! Yn y pen draw, maen nhw’n blino’n lân. Os oes gynnoch chi deulu, efallai byddwch chi’n poeni am sut byddwch chi’n edrych ar eu holau—ac mae hynny yn beth da! Ond cofiwch hyn: Yr hyn sydd ei angen fwyaf ar aelodau eich teulu ydy eich cariad, eich amser, a’ch sylw.
Mae ceisio byw bywyd moethus afresymol yn debyg i geisio nofio yn erbyn y llif mewn afon fyrlymus!