YMDOPI Â’R CYNNYDD MEWN PRISIAU
Bod yn Obeithiol
Ydy costau byw yn eich gwlad chi’n codi’n gyflymach na’ch cyflog? Ydych chi’n poeni am sut i ennill digon i edrych ar ôl eich teulu? Os felly, efallai byddwch chi’n teimlo bod y dyfodol yn ansicr. Ond hyd yn oed mewn sefyllfa fel hon, mae gobaith yn gwneud gwahaniaeth.
PAM MAE’N BWYSIG?
Mae pobl llawn gobaith yn gwneud mwy na dyheu am i bethau da ddigwydd. Mae gobaith yn rhoi egni iddyn nhw weithredu a gwneud y gorau o’u sefyllfa. Er enghraifft, mae ymchwil wedi dangos bod pobl obeithiol . . .
yn tueddu i ymdopi’n well â sefyllfaoedd anodd
yn gallu addasu’n well
yn gwneud penderfyniadau gwell o ran eu ffordd o fyw, gan gynnwys dewisiadau sydd o les i’w hiechyd
BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?
Yn gyntaf, ystyriwch sut mae’r Beibl yn gallu eich helpu chi heddiw. Mae’r Beibl yn llawn awgrymiadau ymarferol a all helpu pan fydd prisiau’n codi. Ymhlith pethau eraill, gall yr awgrymiadau hyn eich helpu chi i gael mwy o reolaeth ar eich bywyd ac i deimlo’n fwy parod i ddelio â phroblemau yn y dyfodol.
Yn ail, ystyriwch beth mae’r Beibl yn ei ddweud am y dyfodol. Pan welwch chi werth y cyngor doeth yn y Beibl, efallai byddwch chi eisiau ystyried beth mae’n ei ddweud am y dyfodol. Er enghraifft, byddwch chi’n dysgu bod Duw “am roi dyfodol llawn gobaith i chi.” (Jeremeia 29:11) Pam gallwn ni gredu hynny? Y rheswm ydy Teyrnas Dduw.
BETH YDY TEYRNAS DDUW, A BETH MAE’N MYND I’W WNEUD?
Llywodraeth a fydd yn rheoli dros y ddaear gyfan ydy Teyrnas Dduw. (Daniel 2:44; Mathew 6:10) Bydd yn rheoli o’r nefoedd, ac yn rhoi terfyn ar ddioddefaint a thlodi. Bydd pawb ar y ddaear yn byw mewn heddwch ac yn cael popeth sydd ei angen i fod yn hapus, fel mae’r adnodau canlynol yn dangos.
Mae miliynau o bobl yn credu’r addewidion hynny, gan eu bod nhw wedi eu gwneud gan Dduw “sydd ddim yn gallu dweud celwydd.” (Titus 1:2) Felly beth am edrych ar y Beibl drostoch chi’ch hun? Mae’r gobaith y mae’n ei gynnig yn gallu rhoi nerth ichi ymdopi â phroblemau economaidd ac i deimlo’n hyderus am y dyfodol.