LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • lffi gwers 2
  • Mae’r Beibl yn Rhoi Gobaith Inni

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Mae’r Beibl yn Rhoi Gobaith Inni
  • Mwynhewch Fywyd am Byth!—Gwersi Agoriadol am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • CLODDIO’N DDYFNACH
  • CRYNODEB
  • DARGANFOD MWY
  • Mae’r Beibl yn Rhoi Gobaith Inni
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Gwersi Agoriadol am y Beibl
  • Gobaith Go Iawn am Ddyfodol Gwell
    Pynciau Eraill
  • Rhesymau i Obeithio yn 2023—Beth mae’r Beibl yn ei Ddweud?
    Pynciau Eraill
  • Gobaith ar Gyfer 2024—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?
    Pynciau Eraill
Gweld Mwy
Mwynhewch Fywyd am Byth!—Gwersi Agoriadol am y Beibl
lffi gwers 2
Gwers 2. Yr haul yn codi dros gae anferth o ŷd.

GWERS 02

Mae’r Beibl yn Rhoi Gobaith Inni

Fersiwn Printiedig
Fersiwn Printiedig
Fersiwn Printiedig

Mae pobl ym mhob rhan o’r byd yn wynebu problemau sy’n achosi tristwch, pryder, a hyd yn oed poen iddyn nhw. Ydych chi erioed wedi teimlo fel hyn? Efallai eich bod chi’n dioddef oherwydd salwch, neu oherwydd bod rhywun annwyl ichi wedi marw. Efallai eich bod chi’n gofyn, ‘A fydd bywyd yn gwella?’ Mae’r Beibl yn rhoi ateb calonogol i’r cwestiwn hwnnw.

1. Pa obaith mae’r Beibl yn ei roi inni?

Mae’r Beibl yn esbonio pam mae ’na gymaint o broblemau yn y byd. Ond mae hefyd yn cynnwys y newyddion da bod Duw yn mynd i ddatrys y problemau hyn cyn bo hir. Gall yr addewidion yn y Beibl “roi dyfodol llawn gobaith i chi.” (Darllenwch Jeremeia 29:11, 12.) Mae’r addewidion hyn yn ein helpu ni i ymdopi â’n problemau, i gadw agwedd gadarnhaol, ac i fod yn hapus heddiw ac am byth.

2. Pa fath o ddyfodol mae’r Beibl yn ei ddisgrifio?

Mae’r Beibl yn disgrifio amser yn y dyfodol pan “ni fydd marwolaeth mwyach, ac ni fydd galar na llefain na phoen mwyach.” (Darllenwch Datguddiad 21:4.) Bydd y problemau sy’n ein digalonni ni heddiw—pethau fel tlodi, anghyfiawnder, salwch, a marwolaeth—wedi diflannu. Mae’r Beibl yn addo y bydd pobl yn gallu mwynhau bywyd am byth mewn paradwys ar y ddaear.

3. Sut gallwch chi fod yn sicr y bydd yr addewidion hyn yn dod yn wir?

Mae llawer o bobl yn byw mewn gobaith, ond eto ddim yn sicr y bydd eu gobeithion yn cael eu gwireddu. Ond mae addewidion y Beibl yn wahanol. Gallwn ni gryfhau ein ffydd drwy “chwilio’r Ysgrythurau yn ofalus.” (Actau 17:11) Wrth ichi astudio’r Beibl, fe welwch chi beth mae’n ei ddweud am y dyfodol a gallwch benderfynu drostoch chi’ch hun a allwch chi ei gredu neu beidio.

CLODDIO’N DDYFNACH

Ystyriwch rai o’r pethau mae’r Beibl yn ei addo ar gyfer y dyfodol. Gwelwch sut mae’r gobaith yn y Beibl yn helpu pobl heddiw.

Collage: Golygfeydd sy’n cymharu bywyd heddiw â’r bywyd mae’r Beibl yn ei addo ar gyfer y dyfodol. Mae’r golygfeydd i’w gweld eto isod.

4. Mae’r Beibl yn addo y gallwn ni fyw am byth mewn byd perffaith.

Edrychwch ar y rhestr ganlynol o’r addewidion sydd i’w cael yn y Beibl. Pa rai sy’n apelio fwyaf atoch chi? Pam?

Darllenwch yr adnodau sydd wrth ymyl pob addewid, ac yna ystyriwch y cwestiynau hyn:

  • Ydy’r adnodau hyn yn rhoi gobaith i chi? A fydden nhw’n rhoi gobaith i’ch teulu a’ch ffrindiau?

Dychmygwch fywyd mewn byd:

LLE FYDD NEB YN . . .

LLE BYDD PAWB YN . . .

  • dioddef poen, yn colli nerth oherwydd henaint, neu’n gorfod marw.—Eseia 25:8.

  • gweld eu hanwyliaid yn cael eu hatgyfodi i fywyd ar y ddaear.—Ioan 5:28, 29.

  • mynd yn sâl neu’n gorfod byw gydag anabledd.—Eseia 33:24; 35:5, 6.

  • mwynhau iechyd da a chael nerth eu hieuenctid yn ôl.—Job 33:25.

  • cael ei drin yn annheg.—Eseia 32:16, 17.

  • cael digonedd o fwyd, cartref cyfforddus, a gwaith i’w fwynhau.—Salm 72:16; Eseia 65:21, 22.

  • dioddef o ganlyniad i ryfel.—Salm 46:9.

  • byw mewn heddwch.—Salm 37:11.

  • cael ei lethu gan feddyliau neu atgofion poenus.—Eseia 65:17.

  • byw am byth dan amodau delfrydol.—Salm 37:29.

Bachgen a fu’n sâl bellach yn iach ac yn rhoi cwtsh i’w fam. Dyn a fu’n oedrannus bellach yn ifanc ac yn gwthio berfa llawn llysiau. Plant a fu’n newynu ac yn cael eu gorfodi i weithio bellach yn plannu gardd ac yn chwarae pêl droed. Dynes a fu’n isel ei hysbryd bellach yn sefyll yn syth ac yn gwenu.

5. Mae addewidion y Beibl yn gallu gwneud gwahaniaeth

Mae llawer o bobl yn digalonni neu hyd yn oed yn teimlo’n flin oherwydd y problemau o’u cwmpas. Mae rhai yn mynd ati i geisio newid pethau er gwell. Gwelwch sut mae addewidion y Beibl am ddyfodol gwell yn helpu pobl heddiw. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau canlynol:

FIDEO: Roeddwn i Moyn Brwydro yn Erbyn Anghyfiawnder (4:07)

Collage: Golygfeydd o’r fideo ‘Roeddwn i Moyn Brwydro yn Erbyn Anghyfiawnder.’ 1. Roedd Rafika yn casglu cotwm gyda phobl o’r un hil pan oedd hi’n ferch ifanc. 2. Rafika wrth ei bodd yn gweld pobl o wahanol hil yn cyd-dynnu pan aeth i gynhadledd Tystion Jehofa am y tro cyntaf.
  • Yn y fideo, pa anghyfiawnder oedd yn poeni Rafika?

  • Er nad oedd yr anghyfiawnder yn diflannu, sut roedd y Beibl yn ei helpu hi?

Mae’r gobaith sydd yn y Beibl ar gyfer y dyfodol yn gallu ein helpu ni i beidio â digalonni, ac i ymdopi’n llwyddiannus â’n problemau. Darllenwch Diarhebion 17:22 a Rhufeiniaid 12:12, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Ydych chi’n meddwl bod yr addewidion am y dyfodol yn y Beibl yn gallu gwneud gwahaniaeth i’ch bywyd chi heddiw? Ym mha ffordd?

BYDD RHAI YN DWEUD: “Mae addewidion y Beibl ar gyfer y dyfodol yn rhy dda i fod yn wir.”

  • Pam rydych chi’n meddwl ei bod hi’n bwysig i edrych ar y dystiolaeth?

CRYNODEB

Mae’r addewidion yn y Beibl am ddyfodol hapus yn rhoi gobaith inni ac yn ein helpu ni i ymdopi â’n problemau.

Adolygu

  • Pam mae angen gobaith?

  • Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am y dyfodol?

  • Sut gall gobaith am y dyfodol eich helpu chi heddiw?

Nod

DARGANFOD MWY

Dysgwch fwy am sut gall gobaith eich helpu chi.

“Lle Mae Gwir Obaith i’w Gael?” (Deffrwch!, Ebrill 22, 2004)

Gwelwch sut mae gobaith yn helpu pobl sy’n byw â salwch hir dymor.

“Byw â Salwch Hirdymor—All y Beibl Helpu?” (Erthygl ar jw.org)

Wrth ichi wylio’r fideo cerddoriaeth hwn, ceisiwch weld eich hun a’ch teulu yn mwynhau bywyd yn y Baradwys mae’r Beibl yn ei haddo.

Dychmyga Dy Fywyd (3:37)

Darllenwch am sut mae dysgu beth mae’r Beibl yn ei addo am y dyfodol wedi newid bywyd dyn a oedd yn arfer ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol.

“Dw i Ddim Bellach yn Teimlo Mod i’n Gorfod Newid y Byd” (Y Tŵr Gwylio, Gorffennaf 1, 2013)

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu