LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • my stori 9
  • Noa yn Adeiladu Arch

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Noa yn Adeiladu Arch
  • Storïau o’r Beibl
  • Erthyglau Tebyg
  • Y Dilyw—Pwy Wrandawodd? Pwy Na Wrandawodd?
    Gwrando ar Dduw a Byw am Byth
  • Rhan 5
    Gwrando ar Dduw
  • Y Dilyw
    Storïau o’r Beibl
  • Rhybudd o’r Gorffennol
    Dod yn Ffrind i Dduw!
Storïau o’r Beibl
my stori 9
Noa a’i deulu yn dod ag anifeiliaid a phethau angenrheidiol i mewn i’r arch

STORI 9

Noa yn Adeiladu Arch

ROEDD gan Noa a’i wraig dri mab, Sem, Cham, a Jaffeth. Ac roedd pob un o’r meibion yn briod. Felly, roedd wyth o bobl yn nheulu Noa.

Dywedodd Duw wrth Noa am wneud rhywbeth rhyfedd iawn. Dywedodd wrtho am adeiladu arch fawr. Roedd yr arch mor fawr â llong, ond roedd hi’n debycach i focs hir. ‘Rhaid iddi gael tri llawr,’ meddai Duw, ‘gydag ystafelloedd ynddi.’ Roedd ystafelloedd ar gyfer Noa a’i deulu, ar gyfer yr anifeiliaid, ac ar gyfer bwyd.

Dywedodd Duw wrth Noa am orchuddio’r arch â phyg i gadw’r dŵr allan. Dywedodd Duw: ‘Rwy’n mynd i anfon dilyw mawr i ddinistrio’r byd i gyd. Bydd pawb y tu allan i’r arch yn marw.’

Roedd Noa a’i feibion yn ufudd i Dduw a dechreuon nhw adeiladu’r arch. Ond chwerthin a wnaeth y bobl a pharhau i wneud pethau drwg. Doedd neb yn credu Noa pan ddywedodd beth roedd Duw yn mynd i’w wneud.

Pobl yn chwerthin am ben Noa wrth iddo eu rhybuddio am y Dilyw

Oherwydd bod yr arch mor fawr, cymerodd amser hir i’w hadeiladu. Ond yn y diwedd, ar ôl blynyddoedd maith o waith caled, roedd hi’n barod. Wedyn, dywedodd Duw wrth Noa am ddod â’r anifeiliaid i mewn i’r arch. Gyda rhai mathau o anifeiliaid, daeth Noa â dau i mewn, un gwryw ac un fenyw. Ond gydag anifeiliaid eraill, roedd rhaid dod â saith. Hefyd, dywedodd Duw wrth Noa am ddod â phob math o adar i mewn i’r arch. Gwnaeth Noa bopeth yr oedd Duw wedi ei orchymyn iddo.

Aeth Noa a’i deulu i mewn i’r arch. Yna, caeodd Duw’r drws. Roedd Noa a’i deulu yn aros. Dychmyga dy fod ti yn yr arch gyda nhw, yn disgwyl. A fyddai’r dilyw yn dod fel yr oedd Duw wedi dweud?

Genesis 6:9-22; 7:1-9.

Cwestiynau ar Gyfer Astudio

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu