GWERS 7
Rhybudd o’r Gorffennol
Be’ fydd yn digwydd i bobl ddrwg? Yn amser Noa, ac mae hyn yn mynd yn ôl rai miloedd o flynyddoedd, ‘roedd y byd yn llawn drygioni. Fe dd’wedodd Duw wrth Noa Ei fod am ddifetha’r bobl ddrwg trwy ddod â dilyw. ‘Roedd ffordd o fyw Noa yn plesio Jehofah, felly er mwyn diogelu Noa a’i deulu yn ystod y cyfnod hwn rhoddodd Duw gyfarwyddiadau iddo i adeiladu arch. Dyna sut ‘rydym ni’n gwybod na fydd ‘na ddim pobl ddrwg yn cael byw ym Mharadwys. Dim ond y rhai sy’n gyfeillion i Jehofah fydd yn cael bod yno.—Genesis 6:9-18.
’Wnaeth y bobl ddrwg wrando dim ar Noa yn eu rhybuddio nhw fod Dilyw i ddod:- ‘roedden’ nhw am barhau yn eu gweithredoedd drygionus. Ond aeth Noa a’i deulu ati i adeiladu’r arch a’i gorffen. Wedyn, aeth yr anifeiliaid i mewn i’r arch, a hefyd Noa a’i deulu. Yna, anfonodd Jehofah storm fawr i lawio ar y ddaear ddydd a nos am 40 diwrnod. Fe ddaeth y dŵr i orchuddio’r ddaear i gyd.—Genesis 7:7-12.
Bu farw’r bobl ddrwg yn y Dilyw ond cadwodd Jehofah Noa a’i deulu’n ddiogel, ac fe gawson’ nhw fyw ar y ddaear lân. (Genesis 7:22,23) Yn ôl y Beibl, mae amser yn dod unwaith eto pan fydd Jehofah yn distrywio pawb sy’n gwrthod gwneud y peth iawn. Ond fe gaiff pobl dda fyw am byth ar ddaear Baradwys.—2 Pedr 2:5,6,9.
Mae’r sefyllfa’n ddigon tebyg heddiw—llawer o bobl yn gwneud drygioni. Er bod Jehofah yn anfon ei Dystion yn gyson i rybuddio’r bobl hyn, ychydig sy’n gwrando ar eiriau Jehofah. ‘Dydyn’ nhw ddim eisiau newid. ‘Dydyn nhw ddim am dderbyn safonau Duw ynglŷn â da a drwg. Be’ fydd yn digwydd i’r bobl hyn? Oes gobaith y gwnân’ nhw newid rywdro? ‘Wnaiff llawer fyth newid. Mi ddaw amser pan fydd pobl ddrwg yn cael eu distrywio’n llwyr. Chân’ nhw byth fyw eto.—Salm 92:7.
Mi ddaw’r ddaear yn baradwys, a ffrindiau Duw yn byw am byth ar y ddaear Baradwys hon.—Salm 37:29.