RHAN 5
Y Dilyw—Pwy Wrandawodd? Pwy Na Wrandawodd?
Roedd y rhan fwyaf o’r bobl adeg Noa yn ddrwg. Genesis 6:5
Cafodd Adda ac Efa blant, ac yna fe wnaeth bobl lenwi’r ddaear. Ymhen amser, fe wnaeth rhai angylion ymuno â Satan yn ei wrthryfel.
Fe wnaeth yr angylion hyn ddod i’r ddaear a chymryd cyrff dynion, fel eu bod nhw’n gallu priodi merched. Cafodd y merched feibion. Roedd y rhain yn tyfu i fod yn gewri cryf a ffyrnig.
Fe ddaeth y byd yn llawn pobl ddrwg. Mae’r Beibl yn dweud bod “drygioni’r bobl yn fawr ar y ddaear, a bod holl ogwydd eu bwriadau bob amser yn ddrwg.”
Gwrandawodd Noa ar Dduw ac fe adeiladodd arch. Genesis 6:13, 14, 18, 19, 22
Roedd Noa yn ddyn da. Dywedodd Jehofah wrth Noa ei fod am ddod â dilyw i ddinistrio’r bobl ddrwg.
Dywedodd Duw wrth Noa am adeiladu llong enfawr, sef yr arch, ac i fynd â’i deulu i mewn iddi, ynghyd â phob math o anifail.
Fe wnaeth Noa rybuddio pobl am y Dilyw, ond, wnaethon nhw ddim cymryd sylw. Fe wnaeth rhai chwerthin am ben Noa; roedd eraill yn ei gasáu.
Ar ôl i Noa adeiladu’r arch, fe wnaeth Noa fynd â’r anifeiliaid i mewn.