LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • bm rhan 5 t. 8
  • Duw yn Bendithio Abraham a’i Deulu

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Duw yn Bendithio Abraham a’i Deulu
  • Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
  • Erthyglau Tebyg
  • O’r Dilyw hyd at y Waredigaeth o’r Aifft
    Storïau o’r Beibl
  • Braslun Genesis
    Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • Symud i’r Aifft
    Storïau o’r Beibl
  • Brodyr Cas Joseff
    Storïau o’r Beibl
Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
bm rhan 5 t. 8
Abraham yn dal y gyllell wrth i Isaac orwedd ar yr allor

RHAN 5

Duw yn Bendithio Abraham a’i Deulu

Disgynyddion Abraham yn ffynnu. Duw yn amddiffyn Joseff yn yr Aifft

ROEDD Jehofa yn gwybod y byddai’r Un mwyaf annwyl iddo yn gorfod dioddef a marw ryw ddydd. Roedd y broffwydoliaeth yn Genesis 3:15 wedi lled-awgrymu hyn. Sut roedd Duw yn medru cyfleu i ddynolryw gymaint y byddai’r farwolaeth honno’n costio iddo? Mae’r Beibl yn rhoi enghraifft fyw inni ym mywyd Abraham. Gofynnodd Duw iddo aberthu ei fab annwyl Isaac.

Roedd gan Abraham ffydd fawr. Cofiwch, roedd Duw wedi addo y byddai’r Gwaredwr neu’r Had yn dod drwy linach Isaac. Yn gwbl ffyddiog y byddai Duw yn atgyfodi Isaac petai angen, roedd Abraham yn fodlon aberthu ei fab. Ond fe wnaeth angel Duw rwystro Abraham mewn pryd. Fe wnaeth Duw ganmol Abraham am fod mor barod i offrymu ei annwyl fab. Cadarnhaodd Duw Ei addewidion unwaith eto i Abraham.

Yn ddiweddarach, cafodd Isaac ddau fab, Esau a Jacob. Yn wahanol i Esau, roedd Jacob yn gwerthfawrogi pethau ysbrydol a chafodd ei wobrwyo am hynny. Newidiodd Duw enw Jacob i Israel, a daeth 12 o’i feibion yn benaethiaid ar lwythau Israel. Ond, sut daeth y teulu hwnnw’n genedl fawr?

Roedd y rhan fwyaf o feibion Jacob yn genfigennus o’u brawd bach Joseff, ac fe wnaethon nhw ei werthu yn gaethwas. Rhoddodd hyn gychwyn ar gyfres o ddigwyddiadau. Cafodd Joseff ei gludo i’r Aifft, ond bendithiodd Duw ef am fod yn ddewr ac yn ffyddlon er ei fod mor ifanc. Roedd bywyd yn galed iawn i Joseff ond, yn y pen draw, fe roddodd Pharo swydd bwysig iddo. A pheth da oedd hynny, oherwydd pan anfonodd Jacob rai o’i feibion i’r Aifft i brynu bwyd yn ystod cyfnod o newyn, pwy oedd yn gyfrifol am y bwyd i gyd? Neb llai na Joseff! Ar ôl cyfarfod emosiynol rhwng y brodyr, maddeuodd Joseff iddyn nhw a threfnu i’r teulu symud i’r Aifft. Cawson nhw dir da lle’r oedden nhw’n gallu amlhau a ffynnu. Sylweddolodd Joseff fod Duw wedi ymyrryd yn y materion hyn er mwyn cyflawni Ei addewidion.

Joseff yn datgelu ei fod yn frawd iddyn nhw

Treuliodd Jacob weddill ei oes yn yr Aifft yng nghanol ei deulu mawr. Ar ei wely angau, fe ragfynegodd y byddai’r Gwaredwr neu’r Had addawedig yn cael ei eni yn llinach ei fab Jwda, a byddai’n dod yn Frenin grymus. Cyn i Joseff farw, fe broffwydodd y byddai Duw yn mynd â theulu Jacob allan o’r Aifft.

​—Yn seiliedig ar Genesis penodau 20-50; Hebreaid 11:17-22.

  • Beth gofynnodd Duw i Abraham ei wneud, a thrwy hynny, beth oedd Duw yn ei gyfleu i ddynolryw?

  • Sut daeth Joseff i fod yn yr Aifft, a beth ddigwyddodd wedyn?

  • Beth broffwydodd Jacob cyn iddo farw?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu