Cân 79 (177)
Pa Mor Sanctaidd y Dylem Fod
1. Dydd mawr ein Iôr Jehofah sydd yn prysur nawr ddod.
Cael agosáu at Dduw a’i Frenin Crist yw ein nod.
Mae’r nos yn dod i ben ac mae’r dydd gerllaw;
Byd newydd sbon heb Satan, yn fuan ddaw.
Dal ati wnawn mewn gweddi daer, yn effro a llon.
Gweddïwn am wneud ’wyllys Duw drwy’r holl ddaear gron.
Mewn gweddi ar ein Duw o’n calon â’n holl nerth,
Mawr dangnefedd gawn, hyfrydwch llawn, bendithion o werth.
2. Mae pawb yn synnu gweld brawdoliaeth sydd mor gytûn.
Ein heddwch sy’n ein gwneud yn sioe i angel a dyn.
Ystyriwn pa mor sanctaidd y dylem fod;
A’n hymarweddiad duwiol i Dduw’n rhoi clod.
Fe geisiwn nawr gyhoeddi geni Teyrnas mor wiw—
Addewid nef a daear newydd tirionaf Dduw.
Yn sail i’r newydd fyd bydd cyfraith gariadlawn;
Wrth gyhoeddi’r teg newyddion hyn ein Duw a fawrhawn.
3. Gweithredoedd ac ymddygiad glân sy’n holl bwysig nawr.
Cydweithio wnawn ag egwyddorion sy’n elw mawr.
Yn rhinwedd aberth Crist cawsom burdeb glân,
Am heddwch graslon Duw seiniwn lawen gân.
Di-nam a difrycheulyd ceisiwn nawr fyw bob dydd;
Fel gweision i Jehofah Dduw fe rodiwn yn rhydd.
Yn agos ato down, ein Cyfaill gorau yw;
Cymorth ganddo gawn, darpariaeth lawn a newydd fyd gwiw.