Cân 34 (77)
“Jehofah Yw Fy Mugail”
(Salm 23)
1. Jehofah Dduw yw fy Mugail;
Duw parod i drugarhau.
Fe wna im orwedd mewn porfeydd bras
Gerllaw dyfroedd, i’m cryfhau.
Ar hyd teg lwybrau cyfiawnder
Yn dyner fe’m harwain i.
Ei enw sanctaidd, moliannus yw;
Ei eiriau rydd nerth i mi.
Ei enw sanctaidd, moliannus yw;
Ei eiriau rydd nerth i mi.
2. Drwy’r dyffryn du, O mor dywyll
Fe gerddaf heb ofni dim.
Fy Mugail Mawr wrth fy ochr sydd;
Ei ffon ddaw â chysur im.
Yn nhŷ fy Arglwydd fe drigaf,
Fy nghwpan sydd nawr yn llawn.
Ei gariad sydd yn fy nghynnal i,
Mor gadarn ei fraich uniawn.
Ei gariad sydd yn fy nghynnal i,
Mor gadarn ei fraich uniawn.
3. Mor ddoeth, mor dirion fy Mugail!
Moliannaf ei glod â chân.
Cyhoeddaf hyn nawr i’r defaid rai
Sy’n parchu ei enw glân.
Dymunaf aros yn ffyddlon
Ac ufudd i’w Air bob dydd,
Gan rodio beunydd ei lwybrau teg—
Fy nhrysor am byth hyn fydd.
Gan rodio beunydd ei lwybrau teg—
Fy nhrysor am byth hyn fydd.