Cân 22
“Jehofa Yw Fy Mugail”
(Salm 23)
1. Jehofa Dduw yw fy Mugail,
Duw parod i drugarhau.
Fe wna im orwedd mewn porfa fras,
Ger dyfroedd caf ymgryfhau.
Ar hyd teg lwybrau cyfiawnder
Yn dyner fe’m harwain i.
Ei enw sanctaidd, moliannus yw;
Ei eiriau rydd nerth i mi.
Ei enw sanctaidd, moliannus yw;
Ei eiriau rydd nerth i mi.
2. Drwy’r dyffryn du, O mor dywyll,
Y cerddaf heb ofni dim.
Fy Mugail Mawr wrth fy ochr sydd,
Ei ffon ddaw â chysur im.
Yn nhŷ Jehofa preswyliaf,
Fy nghwpan sydd nawr yn llawn.
Ei gariad sydd yn fy nghynnal i,
Mor gadarn ei fraich uniawn.
Ei gariad sydd yn fy nghynnal i,
Mor gadarn ei fraich uniawn.
3. Mor ddoeth, mor dirion fy Mugail!
Fe seiniaf ei glod â chân.
Ei foliant draethaf i ddefaid rai;
Y munant â’r deg fawlgan.
Dymunaf aros yn ffyddlon
Ac ufudd i’w Air bob dydd.
Yr uchelfannau, eu rhodio wnaf;
Fy nhrysor am byth hyn fydd.
Yr uchelfannau, eu rhodio wnaf;
Fy nhrysor am byth hyn fydd.
(Gweler hefyd Salm 28:9; 80:1.)