Cân 38 (85)
Jehofah Yw Ein Noddfa
(Salm 91:1, 2)
1. Jehofah yw ein noddfa,
Ymddiried ynddo wnawn.
Ein Duw yw’n hamddiffynfa,
Ei Air yw’n lloches lawn.
Dy wared rhag yr heliwr wna,
Diogelwch Ef a sicirha.
Caer gadarn yw Jehofah,
Gwaredwr ffyddlon, uniawn.
2. Cei nodded dan adenydd
Yr Iôr rhag ofn y pla.
Pan syrthia’r llu digrefydd,
Dy gyffwrdd, saeth ni wna.
Rhag niwed ddaw yng nghanol dydd
Gwirionedd Duw dy darian fydd.
Â’th lygaid, gwêl y cyfan;
Ei esgyll rydd it hyfdra.
3. Ni ddaw it unrhyw niwed,
I’th babell pla ni ddaw.
Angylion rydd it nodded;
Y sarff ni fydd yn fraw.
Oherwydd glynu wnêst wrth Dduw
A’i nabod wrth ei enw gwiw,
Mwynhau wnei waredigaeth
Gan nerth grymusol ei law.
4. Moliannwch Jah am sicrwydd
Ei addunedau pur;
A chadwn ein hunplygrwydd
Wrth daenu’r Gair drwy’n tir.
Ymroddiad ffyddlon llwyr yw’n nod;
Jehofah haedda fythol glod.
Tŵr cadarn yw ei enw;
Iachawdwr nerthol geirwir.