Cân 93 (211)
Cyfrannu’n Llawen yn y Cynhaeaf
1. Yn nhymor cynhaeaf y trigwn,
Braint ydyw yn ddiamau iawn.
Angylion was’naetha’n fedelwyr
A’u helpu yr awron fe gawn.
Rhoed cychwyn i bethau gan Iesu
Wrth iddo’r ŷd yn y maes hau.
I’r c’naeaf y cnydau yn aeddfed sydd;
Fe’u casglwn, a llawen barhau.
2. Mae’r ŷd eisoes nawr yn y ’sgubor.
Nabyddwyd yr efrau’n ddi-wall.
Yr efrau a geisia ein rhwystro
Â’u hwylo a’u rhincian di-ball.
Glân bobol Jehofah sy’n ddiwyd,
Gwas’naethant o wawrddydd hyd hwyr:
Cans mawr yw cynhaeaf y defaid rai;
A’u helpu rhaid i ni yn llwyr.
3. Ein cariad at Dduw a chymydog
A’n cymell i gyflymu’n troed.
Mae’r gwaith cynaeafu yn bwysig
Cans arwydd y diwedd a roed.
Gweithgarwch nodwedda’r cynhaeaf,
Rhown gymorth i’r rhai ddaw o’r byd.
Mor llawen cawn fod yn y maes bob dydd
A’r newydd rai’n dirnad yr ŷd.
4. Crist Iesu’r Medelwr a wêl nawr
Mor aeddfed yw’r grawn erbyn hyn.
Niferus yw’r rhai sydd i’w dysgu!
A’r meysydd lle gweithiwn, mor wyn!
Digymar lawenydd dderbyniwn
Fel cydweithwyr Duw ym mhob man.
Gweithredu rhaid in â llawenydd pur;
I’r c’naeaf a Duw gwnawn ein rhan.