Cân 44
Cyfrannu’n Llawen yn y Cynhaeaf
Fersiwn Printiedig
1. Yn nhymor cynhaeaf y trigwn,
I’r alwad ymateb a wnawn;
Medelwyr yw’r gloyw angylion,
I’w helpu, ein gwahodd a gawn.
Gosodwyd y patrwm gan Iesu
A dystiodd yn ddewr ac yn frwd.
A ninnau’n ddisgyblion on’d mawr yw’n braint—
Cyfrannu yng ngwaith casglu’r cnwd!
2. Ein cariad at Dduw a chymydog
Sy’n cymell cyflymu ein troed.
Mor bwysig pregethu, c’naeafu,
Cans arwydd y diwedd a roed.
Digymar lawenydd a brofwn,
Cydweithiwn â Duw ym mhob iaith.
O ddyfalbarhau mawr yw’r fendith gawn.
I’n bywyd y fraint hon a ddaeth.
(Gweler hefyd Math. 24:13; 1 Cor. 3:9; 2 Tim. 4:2.)