GWERS 3
Dysgwch am Dduw
Cyn dod yn ffrind i Dduw, bydd disgwyl i chi ddod i’w ‘nabod yn well. Ydi’ch ffrindiau chi’n defnyddio’ch enw? Wrth gwrs eu bod nhw! Mae Duw hefyd am i chi ddefnyddio’i enw. Enw Duw ydi Jehofah. (Salm 83:18, Beibl Cysegr Lân; Mathew 6:9) Fel ffrind bydd disgwyl ichi hefyd ddod i wybod be’ mae e’n ei hoffi a be’ sy’n gas ganddo, pwy yw ei ffrindiau a phwy sy’n elynion iddo. Mae’n cymryd amser i ddod i ‘nabod rhywun yn dda. Dyna pam mae’r Beibl yn ein hannog i roi amser heibio i ddysgu am Jehofah.—Effesiaid 5:15,16.
Mae ffrindiau Duw yn gwneud y pethau sy’n plesio Duw. Meddyliwch am eich ffrind-iau chi. Os byddwch yn anghwrtais wrthyn’ nhw neu’n gwneud pethau annymunol, fyddan’ nhw’n aros yn ffrindiau i chi? Na fyddan’. Mewn ffordd debyg mae plesio Duw yn help inni aros yn ffrind iddo.—Ioan 4:24.
’Dyw pob crefydd ddim yn arwain at gyfeillgarwch gyda Duw. Fe soniodd Iesu, ffrind pennaf Duw, am ddwy ffordd—un eang, llawn pobl, yn arwain i ddistryw, a ffordd gul gydag ychydig arni yn arwain i fywyd tragwyddol. Felly os ydym ni eisiau ennill cyfeillgarwch Duw mae’n rhaid i ni ei addoli yn y ffordd iawn.—Mathew 7:13,14.