Cân 36
“Yr Hyn a Gysylltodd Duw”
Fersiwn Printiedig
1. Rhaff deircainc rhwymo mae
Mewn priodas ddau ynghyd,
A Duw a dyn yn tystio.
O bydded gwyn eu byd.
Llw wnaed ger bron Jehofa:
“Wrth hon fy serch a lŷn.”
(CYTGAN)
Yr hyn gysylltodd Duw Jah,
O na wahaned dyn.
2. Ewyllys Duw a wnânt,
A dilyn sanctaidd Air.
Erfyniant nawr ei fendith
 geiriau llwon taer.
“Jehofa, byddaf ffyddlon
Am byth i’m gŵr,” medd hi.
(CYTGAN)
Yr hyn gysylltodd Duw Jah,
Yn gysegredig sy’.
(Gweler hefyd Gen. 2:24; Preg. 4:12; Eff. 5:22-33.)