Cân 25
Prawf Bod yn Ddisgybl
Fersiwn Printiedig
1. ‘Câr dy gymydog,’ gorchymyn yw—
Nodwedd hynotaf Cristion triw.
‘Carwch eich gilydd,’ yw geiriau Crist,
Efelychwn y ffyddlon Dyst.
Grym sydd i gariad a wna lesâd,
Dal ati mae yn ddiymwad.
Cariad ni dderfydd byth, mae’n ddiderfyn;
Yn y byd hwn mae’n rhinwedd prin.
2. Cariad i’r adwy a ddaw’n ddi-ffael,
Cymorth a rydd i’r gwan a’r gwael.
Cariad a dalodd y pridwerth drud;
Hyn gyhoeddwn i dristfawr fyd.
Serchog frawdoliaeth, ei gwerth sy’n fawr—
Noddfa o hedd bob munud awr.
Annwyl yw cyfaill weithreda gariad—
‘Ffordd ragorach’ ein Duw a’n Tad.
(Gweler hefyd Rhuf. 13:8; 1 Cor. 13:8; Iago 2:8; 1 Ioan 4:10, 11.)