Cân 74
Llawenydd Jehofa
1. Amlwg yw’r arwydd, herald glandeg Deyrnas.
Awn i gyhoeddi’r newydd da.
Safwch, unionwch! Codwch nawr eich pennau;
Agos yw dydd gwaredol Jah!
(CYTGAN)
Llawenydd Jehofa yw’n cadernid,
Rhowch floedd! Digymar Frenin yw.
Fe roes inni obaith bywiol, llawenhawn;
Daear gyfan clod mawr Iôr a glyw.
Llawenydd Jehofa yw’n cadernid,
Ym rown i’w waith â chalon lon:
‘Dyrchafwn dy enw gogoneddus, Jah,
Goruwch moliant yw drwy’r ddaear gron.’
2. Cymorth a gewch gan Arglwydd Dduw y Lluoedd.
Safwch; cyfarchwch nerthol Iôr.
Mewn seinfawr gân rhowch foliant i Dduw Jacob;
Clod Duw taraned tir a môr!
(CYTGAN)
Llawenydd Jehofa yw’n cadernid,
Rhowch floedd! Digymar Frenin yw.
Fe roes inni obaith bywiol, llawenhawn;
Daear gyfan clod mawr Iôr a glyw.
Llawenydd Jehofa yw’n cadernid,
Ym rown i’w waith â chalon lon:
‘Dyrchafwn dy enw gogoneddus, Jah,
Goruwch moliant yw drwy’r ddaear gron.’
(Gweler hefyd 1 Cron. 16:27; Salm 112:4; Luc 21:28; Ioan 8:32.)