Cân 66
Gwas’naethu Jehofa â’n Holl Enaid
Fersiwn Printiedig
1. “Câr â’th enaid Dduw Jehofa,”
Pennaf orchymyn dwyfol hyn yw.
Dyddiau f’einioes a gysegraf;
Beunydd yn ffyddlon byddaf i’m Llyw.
Yn fy nghalon, Jah, mae dy gyfraith;
F’addunedau’n llon gwblhaf.
(CYTGAN)
O Jehofa, teilwng ydwyt;
Rhodio dy lwybrau uniawn a wnaf.
2. Tir a dyfnfor sy’n dy foli,
Sêr y ffurfafen draethant dy glod.
Cymer Iôr fy nerth a’m doniau,
Moli dy enw byth fydd fy nod.
Teyrngar fyddaf i’m hymgysegriad;
Ynot gorfoleddu a gaf.
(CYTGAN)
O Jehofa, teilwng ydwyt;
Rhodio dy lwybrau uniawn a wnaf.
(Gweler hefyd Deut. 6:15; Salm 40:8; 113:1-3; Preg. 5:4; Ioan 4:34.)