Cân 85
Gwobr Lawn gan Jehofa
1. Jehofa ffyddlonaf, mae’n ’nabod y rhai
Sy’n llwyr ymroddedig i’w Duw.
Fe wêl pan ddaw briw a cholledion i’w rhan
Am droedio ei lwybrau yn driw.
Os gadael a wnaethoch eich teulu a’ch câr
Oherwydd gofynion eich ffydd,
Yn gwmni fe gewch lân frawdoliaeth a ddaw
Yn sail daear newydd a fydd.
(CYTGAN)
Boed i Dduw pob diddanwch roi i chwi
Ad-daliad llawn am eich ymroddiad pur.
Teg nodded gewch dan adenydd Iôr.
Jehofa sy’n ffyddlon, Jehofa geirwir.
2. Dewisa rhai gadw’n ddibriod eu byw,
Fe geisiant y Deyrnas â’u nerth.
Fe rônt eu hadnoddau a’u doniau ar waith
I fyw bywyd duwiol o werth.
Wrth reswm, gall cadw yn sengl am hir
Olygu unigrwydd i rai.
Ein brodyr, chwiorydd a’n câr annwyl ŷnt,
Canmolwn eu hymdrech ddi-drai.
(CYTGAN)
Boed i Dduw pob diddanwch roi i chwi
Ad-daliad llawn am eich ymroddiad pur.
Teg nodded gewch dan adenydd Iôr.
Jehofa sy’n ffyddlon, Jehofa geirwir.
(Gweler hefyd Barn. 11:38-40; Ruth 2:12; Math. 19:12.)