Cân 129
Dal Ein Gafael yn Ein Gobaith
1. Chwilio am ystyr i fywyd wna’r ddynoliaeth—
Heb droi at Dduw, cwbl ofer yw eu hynt.
Ni fynnant dderbyn pam digwydd marwolaeth;
Gwagedd ddilynant ac ymlid gwynt.
(CYTGAN)
Codwch eich calon, daeth Teyrnas ein Duw!
Brenhiniaeth ei Fab ddyry in ddaear wiw.
Ni fydd fyth eto ddrygioni na thrais;
Ein gobaith fel angor rydd sicrwydd parhaus.
2. “Dydd Duw Jehofa sy’n agos.” Canwch utgorn!
Darfod a wna’r ocheneidio, “Am ba hyd?”
Rhyddid a gaiff yr ofidus ddynoliaeth;
Moliant ein Iôr aed i gyrrau’r byd.
(CYTGAN)
Codwch eich calon, daeth Teyrnas ein Duw!
Brenhiniaeth ei Fab ddyry in ddaear wiw.
Ni fydd fyth eto ddrygioni na thrais;
Ein gobaith fel angor rydd sicrwydd parhaus.
(Gweler hefyd Hab. 1:2, 3; Salm 27:14; Joel 2:1; Rhuf. 8:22.)