Cân 58
Gweddi Fy Ymgysegriad
Fersiwn Printiedig
1. Cymer Iôr fy nghalon i,
Hoff ei myfyr arnat ti.
Barnau doeth fy myw gyffrôdd,
Boed i’m gyrfa ryngu’th fodd.
2. Rho i’m traed a’m dwylo’r nerth
I gyflawni gwaith o werth.
O fy Mrenin, boed i’m cân
Gyrraedd dy gynteddau glân.
3. Oriau f’oes yn ddiymwad,
Rhodd i ti fônt, dirion Dad.
Dy was’naethu, O fy Nuw,
Gaiff flaenoriaeth tra bwyf byw.
(Gweler hefyd Salm 40:8; Ioan 8:29; 2 Cor. 10:5.)