RHAN 20
Iesu Grist yn Cael ei Ladd
Iesu’n sefydlu dathliad newydd; yn cael ei fradychu a’i ladd
AR ÔL tair blynedd a hanner o bregethu, roedd Iesu’n gwybod bod ei amser ar y ddaear yn dirwyn i ben. Roedd arweinwyr crefyddol yr Iddewon yn cynllwynio i’w ladd, ond roedden nhw’n ofni creu stŵr ymhlith y bobl a oedd yn credu bod Iesu’n broffwyd. Yn y cyfamser, roedd Satan wedi dylanwadu ar un o apostolion Iesu, Jwdas Iscariot, a’i droi’n fradwr. Cynigiodd yr arweinwyr crefyddol 30 darn o arian i Jwdas er mwyn iddo fradychu Iesu.
Ar ei noson olaf, daeth Iesu a’i apostolion at ei gilydd i ddathlu gŵyl y Pasg. Ar ôl anfon Jwdas i ffwrdd, fe sefydlodd Iesu ddathliad newydd, sef Swper yr Arglwydd. Cymerodd fara, gweddïodd, a rhoddodd y bara i’r 11 apostol a oedd ar ôl, gan ddweud: “Hwn yw fy nghorff, sy’n cael ei roi er eich mwyn chwi; gwnewch hyn er cof amdanaf.” Gwnaeth yr un peth gyda’r gwin, gan ddweud: “Y cwpan hwn yw’r cyfamod newydd yn fy ngwaed i.”—Luc 22:19, 20.
Roedd gan Iesu lawer i’w ddweud wrth ei apostolion y noson honno. Rhoddodd orchymyn newydd iddyn nhw, i garu ei gilydd. Dywedodd: “Os bydd gennych gariad tuag at eich gilydd, wrth hynny bydd pawb yn gwybod mai disgyblion i mi ydych.” (Ioan 13:34, 35) Roedd pethau ofnadwy ar fin digwydd, ond fe ddywedodd Iesu wrthyn nhw am beidio â phryderu. Gweddïodd yn daer drostyn nhw. Yna, fe wnaethon nhw ganu Salmau a mynd allan i dywyllwch y nos.
Yng ngardd Gethsemane, penliniodd Iesu a gweddïodd o waelod ei galon. Cyn bo hir, cyrhaeddodd criw o filwyr, offeiriaid ac eraill i’w arestio. Dangosodd Jwdas i’r milwyr pwy oedd Iesu drwy fynd ato a’i gusanu. Wrth i’r milwyr rwymo Iesu, rhedodd yr apostolion i ffwrdd.
O flaen uchel lys yr Iddewon, fe wnaeth Iesu ddatgan mai ef oedd Mab Duw. Barnodd y llys ei fod yn euog o gabledd ac yn haeddu marwolaeth. Llusgwyd Iesu gerbron y Llywodraethwr Rhufeinig Pontius Pilat. Er nad oedd Pilat yn meddwl bod Iesu’n euog, rhoddwyd Iesu yn nwylo’r dorf a oedd yn gweiddi am ei waed.
Cymerwyd Iesu i Golgotha, lle cafodd ei hoelio ar stanc gan filwyr Rhufeinig. Yn sydyn, a hithau’n ganol dydd, aeth pob man yn dywyll. Yn ddiweddarach yn y prynhawn, bu farw Iesu ac roedd daeargryn mawr. Rhoddwyd ei gorff mewn bedd a oedd wedi ei dorri yn y graig. Y diwrnod wedyn, caeodd yr offeiriaid y bedd a gosod milwyr i’w warchod. A fyddai Iesu yn aros yn y bedd? Na fyddai. Roedd y wyrth fwyaf oll ar fin digwydd.
—Yn seiliedig ar Mathew penodau 26 a 27; Marc penodau 14 ac 15; Luc penodau 22 a 23; Ioan penodau 12-19.