RHAN 5
Sut i Gadw Heddwch â’ch Perthnasau
“Gwisgwch amdanoch . . . caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, addfwynder ac amynedd.”—Colosiaid 3:12
Mae priodas yn creu teulu newydd. Er y byddwch wastad yn caru a pharchu eich rhieni, eich cymar yw’r person mwyaf pwysig i chi ar y ddaear. Gall hyn fod yn anodd i rai o’ch perthnasau ei dderbyn. Ond, gall egwyddorion y Beibl eich helpu i gael cydbwysedd, er mwyn ichi gadw heddwch gyda’ch teulu a gweithio’n galed ar adeiladu eich teulu newydd.
1 CADWCH AGWEDD GYWIR TUAG AT EICH PERTHNASAU
MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Anrhydedda dy dad a’th fam.” (Effesiaid 6:2) Boed yn hen neu’n ifanc, dylech chi o hyd anrhydeddu a pharchu eich rhieni. Mae’n bwysig i gydnabod bod angen i’ch cymar roi sylw i’w rieni hefyd. “Nid yw cariad yn cenfigennu,” felly peidiwch â theimlo dan fygythiad oherwydd y perthynas rhwng eich cymar a’i rieni.—1 Corinthiaid 13:4; Galatiaid 5:26.
BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?
Osgowch wneud sylwadau fel, “Mae eich teulu bob amser yn fy mychanu” neu “Mae dy fam yn casáu popeth dw i’n ei wneud”
Ceisiwch weld pethau o safbwynt eich cymar
2 BYDDWCH YN GADARN PAN FYDD ANGEN
MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam, ac yn glynu wrth ei wraig, a byddant yn un cnawd.” (Genesis 2:24) Ar ôl ichi briodi, efallai bydd eich rhieni yn dal i deimlo’n gyfrifol amdanoch, a cheisio dylanwadu’n fwy ar eich priodas nag y dylen nhw.
Dylech chi a’ch cymar benderfynu lle i dynnu’r llinell, a gadael i’ch perthnasau wybod mewn ffordd garedig. Gallwch fod yn agored ac yn onest heb fod yn anghwrtais. (Diarhebion 15:1) Bydd dangos gostyngeiddrwydd, addfwynder, ac amynedd yn eich helpu i gynnal perthynas agos gyda’ch perthnasau “gan oddef eich gilydd mewn cariad.”—Effesiaid 4:2.
BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?
Os ydych yn pryderu am faint o ddylanwad mae eich rhieni yn cael ar eich bywyd, trafodwch hyn gyda’ch cymar pan fydd pethau’n dawel
Dewch i gytundeb ar sut y byddwch yn delio â’r sefyllfa