Cân 143
Goleuni Mewn Byd Tywyll
Fersiwn Printiedig
Tywyll fyd, afreolus fyd,
Sydd heb weld golau’r wawr.
Pefrio pur haul y newydd ddydd
Sy’n ein harwain yn awr.
(CYTGAN)
Gloyw yw’r goleuni,
Disglair fel haul canol dydd;
Goleua’r tywyll fyd.
Llachar yw ei lewyrch,
Gwelwn yfory yn glir,
A’r nos yn ddydd.
Golau’r gwir, gobaith newydd fyd
Sy’n eu deffro o’u cwsg.
Hon yw’r awr, dyma’r rhiniog nawr,
Fory sydd wrth y drws.
(CYTGAN)
Gloyw yw’r goleuni,
Disglair fel haul canol dydd;
Goleua’r tywyll fyd.
Llachar yw ei lewyrch,
Gwelwn yfory yn glir,
A’r nos yn ddydd.
(Gweler hefyd Ioan 3:19; 8:12; Rhuf. 13:11, 12; 1 Pedr 2:9.)