LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • lff gwers 25
  • Beth Yw Pwrpas Duw ar Ein Cyfer?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Yw Pwrpas Duw ar Ein Cyfer?
  • Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • CLODDIO’N DDYFNACH
  • CRYNODEB
  • DARGANFOD MWY
  • Pwy Yw Duw?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Sut Dechreuodd Bywyd ar y Ddaear?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Beth Yw Ystyr Bywyd?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Beth Yw Pwrpas Duw ar gyfer y Ddaear?
    Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni?
Gweld Mwy
Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
lff gwers 25
Gwers 25. Y ddaear, fel mae’n ymddangos o’r gofod.

GWERS 25

Beth Yw Pwrpas Duw ar Ein Cyfer?

Fersiwn Printiedig
Fersiwn Printiedig
Fersiwn Printiedig

Mae’r Beibl yn cydnabod mai “byr ydy bywyd dyn, . . . ac mae ei ddyddiau yn llawn trafferthion.” (Job 14:1) Ai dyma’r bywyd mae Duw yn dymuno inni ei gael? Os nad yw, yna beth yw ei bwrpas ar ein cyfer, ac a gaiff ei gyflawni? Ystyriwch atebion calonogol y Beibl.

1. Pa fath o fywyd y mae Jehofa yn dymuno inni ei gael?

Mae Jehofa am inni gael y bywyd gorau posib. Pan greodd Duw y bobl gyntaf, Adda ac Efa, rhoddodd baradwys hyfryd, gardd Eden, yn gartref iddyn nhw. Yna, “dyma Duw yn eu bendithio nhw, a dweud wrthyn nhw . . . ‘Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi.’” (Genesis 1:28) Roedd Jehofa yn dymuno iddyn nhw gael plant, gofalu am yr anifeiliaid, a throi’r ddaear gyfan yn baradwys. Ei fwriad oedd i bobl gael iechyd perffaith a byw am byth.

Er na ddigwyddodd hynny,a nid yw pwrpas Duw wedi newid. (Eseia 46:10, 11) Y mae’n dal i ddymuno i fodau dynol fyw am byth mewn byd perffaith.​—Darllenwch Datguddiad 21:3, 4.

2. Sut gallwn ni gael bywyd ystyrlon heddiw?

Mae Jehofa wedi rhoi inni “angen ysbrydol” sef yr awydd i’w adnabod a’i addoli. (Darllenwch Mathew 5:3-6.) Mae’n dymuno inni fod yn ffrindiau agos iddo, “i rodio yn ei ffyrdd a’i garu,” ac i’w wasanaethu â’n “holl galon.” (Deuteronomium 10:12, BCND; Diarhebion 3:32) Drwy wneud hynny, gallwn ni fod yn hapus er gwaethaf ein problemau. Mae addoli Jehofa yn rhoi ystyr a phwrpas i’n bywydau.

CLODDIO’N DDYFNACH

Dysgwch am gariad mawr Jehofa drwy’r ffordd y creodd y ddaear i ni, a dysgwch o’i Air am bwrpas bywyd.

Adda ac Efa yn edrych ar yr ardd sy’n gartref iddyn nhw, llawn planhigion hyfryd ac anifeiliad.

3. Mae gan Jehofa bwrpas gwych ar gyfer dynolryw

Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.

FIDEO: Pam Creodd Duw y Ddaear?​—Clip (1:41)

  • Pam creodd Duw blaned mor hardd inni?

Darllenwch Pregethwr 3:11 BCND, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Beth rydych chi’n ei ddysgu am Jehofa o’r adnod hon?

4. Nid yw pwrpas Jehofa wedi newid

Darllenwch Salm 37:11, 29 ac Eseia 55:11, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut rydyn ni’n gwybod nad yw pwrpas Jehofa wedi newid?

A. Tŷ mewn cyflwr gwael. Mae’r to yn disgyn yn ddarnau, mae’r ffenestri wedi torri, ac mae’r ardd yn llawn sbwriel. B. Yr un tŷ, wedi ei adfer, bellach yn hardd gyda gardd daclus.

Mae’n bosib adfer tŷ sydd mewn cyflwr gwael. Yn yr un modd, bydd Duw yn adfer y ddaear ar gyfer y rhai sydd yn ei garu.

5. Mae addoli Jehofa yn rhoi pwrpas i’n bywydau

Mae gwybod beth yw pwrpas bywyd yn ein gwneud ni’n hapus. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn canlynol:

FIDEO: Dysgais Beth Yw Pwrpas Bywyd (5:03)

  • Sut mae dysgu beth yw pwrpas bywyd wedi helpu Terumi?

Darllenwch Pregethwr 12:13, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Gan fod Jehofa wedi gwneud cymaint ar ein cyfer, sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar?

BYDD RHAI YN GOFYN: “Beth yw pwrpas bywyd?”

  • Sut byddech chi’n ateb?

CRYNODEB

Mae Jehofa eisiau inni fwynhau bywyd am byth mewn amgylchiadau perffaith ar y ddaear. Os ydyn ni’n ei addoli â’n holl galon, bydd ystyr i’n bywydau​—hyd yn oed heddiw.

Adolygu

  • Beth oedd bwriad gwreiddiol Jehofa ar gyfer Adda ac Efa?

  • Sut rydyn ni’n gwybod nad yw pwrpas Jehofa ar gyfer dynolryw wedi newid?

  • Sut gallwch chi gael bywyd ystyrlon?

Nod

DARGANFOD MWY

Ystyriwch y dystiolaeth y bu gardd Eden ar y ddaear ar un adeg.

“Gardd Eden​—Myth neu Ffaith?”(Y Tŵr Gwylio, Ionawr 1, 2011)

Dysgwch pam gallwn fod yn sicr y bydd y ddaear yn para am byth.

“A Gaiff y Ddaear ei Dinistrio Ryw Ddydd?” (Erthygl ar jw.org)

Ystyriwch beth mae’r Beibl yn ei ddweud am sut i gael bywyd ystyrlon.

“Beth Yw Ystyr Bywyd?” (Erthygl ar jw.org)

Gwelwch sut daeth dyn o hyd i rywbeth a oedd ar goll yn ei fywyd, er ei fod yn meddwl bod popeth ganddo.

Bellach Mae Pwrpas i Fy Mywyd (3:55)

a Yn y wers nesaf, byddwch yn dysgu beth a aeth o’i le.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu