LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwbq erthygl 52
  • Beth Yw Ystyr Bywyd?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Yw Ystyr Bywyd?
  • Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Ateb y Beibl
  • Beth Yw Pwrpas Duw ar Ein Cyfer?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Gallwch Chi Fod yn Ffrind i Jehofa
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Allech Chi Fyth Gael Gwell Ffrind na Duw
    Dod yn Ffrind i Dduw!
  • Sut Gallwch Chi Ddod i Adnabod Duw yn Well?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
Gweld Mwy
Atebion i Gwestiynau am y Beibl
ijwbq erthygl 52

Beth Yw Ystyr Bywyd?

Ateb y Beibl

Gellir gofyn y cwestiwn am ystyr bywyd mewn sawl ffordd. Er enghraifft, Pam ein bod ni yma? neu Oes pwrpas i fy mywyd? Yn ôl y Beibl, ein pwrpas mewn bywyd yw meithrin perthynas â Duw. Ystyriwch rai o’r gwirioneddau sylfaenol sydd yn y Beibl.

  • Duw yw ein Creawdwr. Mae’r Beibl yn dweud: “[Duw] ydy’r un a’n gwnaeth ni.”​—Salm 100:3; Datguddiad 4:11.

  • Mae gan Dduw bwrpas ar gyfer popeth y mae’n ei greu, gan gynnwys ni ein hunain.​—Eseia 45:18.

  • Mae Duw wedi ein creu ni gydag angen ysbrydol sy’n cynnwys yr angen i gael ystyr i’n bywydau. Heb hynny, rydyn ni’n teimlo’n “dlawd ac annigonol.” (Mathew 5:3) Mae Duw eisiau inni ddiwallu’r angen hwnnw.​—Salm 145:16, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

  • Rydyn ni’n diwallu ein hanghenion ysbrydol drwy feithrin perthynas â Duw. Er bydd rhai yn gweld y syniad o fod yn ffrind i Dduw yn amhosibl, mae’r Beibl yn ein hannog: “Closiwch at Dduw a bydd e’n closio atoch chi.”​—Iago 4:8; 2:23.

  • I ddod yn ffrind i Dduw, mae’n rhaid inni fyw yn unol â’i bwrpas ar ein cyfer. Mae’r Beibl yn sôn am y pwrpas hwnnw yn Pregethwr 12:13: “Addola Dduw a gwna beth mae e’n ddweud! Dyna beth ddylai pawb ei wneud.”

  • Yn y dyfodol, bydd pwrpas gwreiddiol Duw ar ein cyfer yn cael ei gyflawni’n llwyr. Bryd hynny, bydd Duw yn rhoi terfyn ar ddioddefaint am byth ac yn rhoi bywyd tragwyddol i’r rhai sy’n ei addoli.​—Salm 37:10, 11, BCND.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu