LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp19 Rhif 2 tt. 10-11
  • Pan Fo Salwch Difrifol Arnoch

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pan Fo Salwch Difrifol Arnoch
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2019
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • AWGRYMIADAU I’CH HELPU I YMDOPI
  • Rwyt Ti’n Werthfawr i Jehofa!
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Sut Gall Gweddïo Eich Helpu?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2021
  • Sut i Ddelio â Phroblem Iechyd Annisgwyl
    Pynciau Eraill
  • Sut i Helpu’r Rhai Sydd â Iechyd Meddwl Gwael
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2023
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2019
wp19 Rhif 2 tt. 10-11

Pan Fo Salwch Difrifol Arnoch

“Pan glywais fod gen i ganser yr ysgyfaint a chanser y colon, o’n i’n teimlo fy mod i newydd gael fy nedfrydu i farwolaeth. Ond ar ôl imi gyrraedd adref o’r feddygfa, meddyliais, ‘Iawn, nid dyma o’n i’n ei ddisgwyl, ond rhaid imi feddwl am ffordd o ddelio â hyn.’”—Linda, sy’n 71 oed.

“Mae syndrom ofnadwy o boenus arna’ i sy’n effeithio ar nerfau ochr chwith fy wyneb. Ar adegau, mae’r boen ddychrynllyd wedi achosi iselder ysbryd imi. Yn aml, o’n i’n teimlo’n unig, ac mi wnes i hyd yn oed ystyried lladd fy hun.”—Elise, sy’n 49 oed.

Dyn sâl sydd mewn cadair olwyn gyda’i anwyliaid o’i gwmpas

OS OES gennych chi neu un o’ch anwyliaid salwch a all achosi marwolaeth, rydych chi’n gwybod cymaint o ofid mae’n gallu ei achosi. Ar ben y salwch ei hun, mae’n rhaid delio ag emosiynau bregus. Gall ofn a phryder ddod yn gryfach fyth oherwydd apwyntiadau meddygol, methu cael hyd i driniaeth addas neu fforddiadwy, neu sgil effeithiau’r feddyginiaeth. Mae’r boen meddwl sy’n dod gyda salwch difrifol yn gallu eich llethu.

Ond, i le gallwn ni fynd am gymorth? Mae llawer yn teimlo mai’r cysur mwyaf yw gweddïo’n daer ar Dduw a darllen adnodau cysurlon yn y Beibl. Gall cariad a chefnogaeth eich teulu a’ch ffrindiau hefyd fod o help.

AWGRYMIADAU I’CH HELPU I YMDOPI

“Rhowch eich ffydd yn Nuw,” meddai Robert, sy’n 58 oed, “ac mi fydd o’n eich helpu drwy eich salwch. Trowch at Jehofa mewn gweddi. Dywedwch wrtho sut ’dych chi’n teimlo. Gofynnwch iddo am ysbryd glân, ac am nerth i fod yn gryf er mwyn y teulu ac i ddod drwy eich salwch gydag urddas.

“Mae’n golygu cymaint pan mae’r teulu yn rhoi cymorth emosiynol ichi, pan maen nhw yno i’ch cefnogi. Dw i’n cael galwadau ffôn yn ddyddiol gan un neu ddau sy’n gofyn, ‘Sut wyt ti?’ a dw i’n cael anogaeth gan ffrindiau o bob man. Maen nhw’n bendant yn rhoi hwb imi, ac mae hynny’n fy helpu i ddal ati.”

Os ydych chi’n ymweld â ffrind sy’n sâl, sylwch ar awgrymiad Linda: “Mae’n siŵr bod y claf eisiau bywyd mor normal â phosib, ac efallai nad ydyn nhw eisiau siarad am y salwch o hyd. Felly sgwrsiwch â nhw am bethau bob dydd.”

Gyda nerth gan Dduw a chysur o’r Ysgrythurau, ynghyd â chefnogaeth teulu a ffrindiau cariadus, gallwn fod yn hyderus bod bywyd yn dal yn werth ei fyw, hyd yn oed pan ydyn ni’n wynebu salwch difrifol.

Adnodau o’r Beibl a All Helpu

Dibynnwch ar Dduw.

“Ro’n i wedi troi at yr ARGLWYDD am help, ac atebodd fi. Achubodd fi o’m holl ofnau. Dyma i chi ddyn anghenus wnaeth alw arno, a dyma’r ARGLWYDD yn gwrando.”—Salm 34:4, 6.

Dywed Linda, a ddyfynnwyd yn gynharach: “Dydw i byth yn gweddïo ar Dduw am iddo fy ngwella. Dw i wastad yn gweddïo, ‘Helpa fi i fod yn gryf, a helpa fi i ymdopi â’r salwch.’”

Derbyniwch nerth oddi wrth Air Duw.

“Fydd neb sy’n byw yno’n dweud, ‘Dw i’n sâl!’”—Eseia 33:24.

Myfyriwch ar addewidion Duw ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn eich llenwi â gobaith a fydd yn eich helpu i ddal ati.

Gofynnwch am help gan eich teulu a’ch ffrindiau.

“Mae ffrind yn ffyddlon bob amser; a brawd wedi ei eni i helpu mewn helbul.”—Diarhebion 17:17.

Dyma gyngor Elise, a ddyfynnwyd ynghynt: “Peidiwch ag ynysu eich hun, gadewch i’ch ffrindiau eich helpu. Ar adegau, efallai byddwch yn teimlo’n unig a meddwl nad yw Duw yn gwrando arnoch, ond peidiwch â chadw eich hun ar wahân.”

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu