“Mi Gymeraf Eich Llyfr Chi Os Cymerwch Fy Llyfr I”
Dyna yw cynnig rhai deiliaid. Dydyn ni ddim yn cyfnewid ein llenyddiaeth ni am lenyddiaeth sy’n lledaenu gwybodaeth anghywir. Felly, sut gallwn ni ymateb yn barchus? (Rhuf. 1:25) Efallai gallwn ni ddweud rhywbeth fel: “Diolch am eich cynnig. Beth mae hwn yn ei ddweud ynglŷn â’r ateb i broblemau’r byd? [Arhoswch am ymateb. Pe bai’r deiliad yn awgrymu ichi ddarllen ei lenyddiaeth ef i ddarganfod yr ateb, gallwch chi ei atgoffa nad oeddech chi’n cynnig llenyddiaeth heb egluro’n gyntaf beth mae’n cynnwys. Wedyn, darllenwch neu dyfynnwch Mathew 6:9, 10.] Yn ei weddi, dangosodd Iesu y bydd ewyllys Duw yn cael ei chyflawni ar y ddaear drwy ei Deyrnas. Felly, yr unig lenyddiaeth grefyddol rydw i’n ei darllen yw llenyddiaeth sy’n canolbwyntio ar Deyrnas Dduw. Ga’ i ddangos adnod o’r Beibl ichi am beth fydd Teyrnas Dduw yn ei gyflawni?”