Mae Angen Dŵr i Hadau Dyfu
1. Beth sydd angen dŵr er mwyn iddo dyfu?
1 Ar ôl hau hadau yn yr ardd mae’n rhaid iddyn nhw gael dŵr i dyfu. Mae’r un peth yn wir am hadau’r gwirionedd sy’n cael eu plannu yng nghalonnau pobl yn ein tiriogaeth. (1 Cor. 3:6) Mae angen inni alw yn ôl a defnyddio gair Duw i ddyfrio’r ‘hadau’ hyn er mwyn iddyn nhw fagu gwreiddiau, dechrau tyfu, a ffynnu.
2. Sut gallwn ni baratoi’r ffordd ar gyfer y galwad nesaf?
2 Codwch Gwestiwn: Wrth baratoi eich cyflwyniad, pam na wnewch chi baratoi cwestiwn diddorol y gallwch chi ei ateb ar yr ail alwad? Codwch y cwestiwn hwnnw ar ddiwedd y sgwrs, a gwnewch drefniadau pendant i alw’n ôl. Mae llawer o gyhoeddwyr yn dewis rhywbeth o’r llyfr Beibl Ddysgu a fydd yn caniatáu iddyn nhw ddangos sut mae astudio’r Beibl.
3. Pa wybodaeth gallwch ei chynnwys yn eich cofnod?
3 Cadwch Gofnod: Yn syth ar ôl y galwad cyntaf, ysgrifennwch nodiadau. Nodwch enw a chyfeiriad y person. Peth da hefyd yw nodi dyddiad ac amser eich galwad, pwnc eich sgwrs, ac unrhyw ddeunydd darllen a adawoch. A yw’r person yn dilyn crefydd arbennig? A oes ganddo deulu? A oedd yn sôn am ei ddiddordebau a’i bryderon? Gyda’r wybodaeth hon gallwch benderfynu beth i’w drafod tro nesaf. Nodwch hefyd pryd rydych chi wedi cytuno i fynd yn ôl a’r cwestiwn y byddwch yn ei ateb.
4. Pam mae’n bwysig inni ddal ati wrth geisio cysylltu â’r rhai sydd wedi dangos diddordeb?
4 Daliwch Ati: Ni fydd Satan yn llaesu dwylo wrth geisio ‘cipio’r gair sydd wedi ei hau’ yng nghalon rhywun. (Marc 4:14, 15) Os yw’n anodd cael hyd i’r person eto, peidiwch â digalonni. A allwch anfon llythyr neu roi nodyn trwy’r drws? Dechreuodd un arloeswraig astudiaeth ar stepen y drws ond ar ôl methu cael hyd i’r ddynes eilwaith, anfonodd lythyr ati. Pan lwyddodd y chwaer i gwrdd â’r ddynes eto dywedodd hi gymaint oedd y llythyr wedi cyffwrdd â’i chalon. Wrth inni ddyfrio hadau’r gwirionedd byddwn ni’n teimlo’n hapus o’u gweld nhw’n egino, yn tyfu, ac “yn dwyn ffrwyth hyd ddeg ar hugain a hyd drigain a hyd ganwaith cymaint.”—Marc 4:20.