Cyflwyniadau Enghreifftiol
I ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y dydd Sadwrn cyntaf ym mis Ionawr
“Mae rhai pobl yn credu bod proffwydoliaethau’r Beibl yn ddibynadwy. Ond mae pobl eraill yn meddwl bod hi’n bosib dehongli’r Beibl mewn sawl ffordd wahanol. Beth yw eich barn chi?” [Arhoswch am ymateb.] Rhowch gopi o’r Watchtower Ionawr 1 i ddeiliad y tŷ, trafodwch y deunydd o dan yr is-bennawd cyntaf ar dudalen 16 a darllenwch o leiaf un o’r adnodau. Cynigiwch y cylchgronau, a threfnwch i alw’n ôl i drafod yr ateb i’r cwestiwn nesaf.
The Watchtower Ionawr 1
“Gallwn ddysgu llawer o wersi trwy edrych ar hanes pobl dda. Ydych chi’n cytuno? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r adnod hon yn cyfeirio at yr unig ddyn yn y Beibl sy’n cael ei alw’n “gyfaill Duw.” [Darllenwch Iago 2:23.] Mae’r cylchgrawn hwn yn egluro pam roedd Duw yn galw Abraham yn ffrind iddo ac mae’n trafod beth rydyn ni’n ei ddysgu o esiampl Abraham.”
Awake! Ionawr
“Mae’n gyffredin iawn ym myd busnes heddiw i bobl fod yn anonest. Mae rhai’n dweud na allwch chi lwyddo ym myd busnes os ydych chi’n hollol onest. Beth ydych chi’n feddwl? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar yr adnod hon. [Darllenwch Diarhebion 20:17.] Mae’r cylchgrawn hwn yn egluro pam mae gonestrwydd yn ymarferol.”