Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Ionawr
“Mae gan y mwyafrif o bobl eu barn eu hunain am Dduw. Mae rhai yn teimlo ei bod hi’n amhosibl dod i ’nabod Duw, ond mae eraill yn ei weld fel Tad cariadus. Beth ydych chi’n feddwl?” Arhoswch am ymateb. Trowch at wers 2 yn y llyfryn Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!, a thrafodwch y wybodaeth o dan gwestiwn dau, ac o leiaf un o’r adnodau. Cynigiwch y llyfryn a threfnwch fynd yn ôl i drafod y cwestiwn nesaf.
The Watchtower Ionawr 1
“Rydyn ni’n siarad â phobl yn yr ardal am rywbeth sy’n effeithio arnon ni i gyd. Fuasech chi’n cytuno bod colli rhywun sy’n annwyl inni yn un o’r pethau anodda’ i’w wynebu? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r adnod yma yn rhoi cysur i lawer o bobl. [Darllen Eseia 25:8.] Mae’r cylchgrawn yma’n sôn am yr addewid sydd yn y Beibl i gael gwared ar farwolaeth ac i ddod â’n hanwyliaid yn ôl yn fyw.”
Awake! Ionawr
“Fuasech chi’n cytuno bod teuluoedd o dan bwysau heddiw? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r Beibl yn dangos beth sydd ei angen i gryfhau’r teulu a’i gadw’n ddiogel. [Darllen Diarhebion 24:3.] Mae llawer yn troi at y Beibl am arweiniad oherwydd y doethineb sydd ynddo. Mae’r cylchgrawn yma’n trafod Gwefan unigryw sy’n seiliedig ar y Beibl, ac sy’n cynnwys adnoddau a gweithgareddau i helpu teuluoedd.”