Helpu’r Rhai Sydd Ddim yn Barod Eto am y Llyfr Beibl Ddysgu
1. A fydd y llyfr Beibl Ddysgu yn apelio at bawb yn y lle cyntaf? Eglurwch.
1 Er mwyn dechrau addoli Jehofah, mae’n rhaid i rywun ddysgu beth sydd yn y Beibl. Ond, nid yw’r rhai sy’n perthyn i grefyddau di-Gristnogol yn credu bod y Beibl yn Air Duw. Mae eraill yn dangos diffyg parch at y Beibl a heb unrhyw gred yn Nuw ychwaith. Sut gallwn helpu pobl sy’n tueddu gwrthod y llyfr Beibl Ddysgu yn y lle cyntaf? Mae adnoddau defnyddiol eraill ar gael. Mae’r awgrymiadau isod yn seiliedig ar sylwadau cyhoeddwyr o tua 20 o wledydd.
2. Petai rhywun yn dweud wrthym nad ydy ef yn credu yn Nuw, beth dylen ni geisio ei ddeall, a pham?
2 Y Rhai Sydd Ddim yn Credu yn Nuw: Petai rhywun yn dweud nad yw’n credu yn Nuw, byddai’n peth da inni ganfod y rheswm pam. A ydy ef yn credu mewn esblygiad? A ydy ef wedi colli ei ffydd yng nghrefydd oherwydd y rhagrith ynddi, neu oherwydd yr holl anghyfiawnder yn y byd? A ydy ef yn dod o wlad sy’n ceisio rhwystro pobl rhag credu mewn Duw? Efallai, nad yw’r deiliad yn teimlo ei bod hi’n bwysig i gredu yn Nuw, a does ganddo ddim teimladau cryf un ffordd neu’r llall. Mae llawer o gyhoeddwyr yn gofyn y cwestiwn: “Ydych chi wastad wedi teimlo fel yna?” Mae hyn yn annog y deiliad i egluro sut mae’n teimlo. Gwrandewch a pheidio â thorri ar ei draws. Pan ddeallwn y rheswm pam nad yw’n credu yn Nuw, fe fydden ni’n gwybod sut i ymateb a pha gyhoeddiad i’w gynnig.—Diar. 18:13.
3. Sut y gallwn ni ddangos parch at y deiliad a’i ddaliadau?
3 Wrth ymateb, ceisiwch osgoi gwneud iddo deimlo fel eich bod chi’n ymosod ar ei safbwynt. Daeth yr awgrym hwn o America: “Mae’n hynod o bwysig i barchu rhyddid personol rhywun i gredu beth mae’n ei ddymuno. Yn hytrach na cheisio ennill dadl, mae’n ddoeth i ofyn cwestiynau er mwyn helpu’r person i feddwl a dod i’w gasgliad ei hun.” Ar ôl gwrando ar y deiliad, mae un arolygwr teithiol yn ymateb drwy ddweud, “Ydych chi erioed wedi ystyried bod hyn yn ateb posib?”
4. Sut gallwn ni helpu Bwdhyddion?
4 Mae’r syniad bod Duw yn bodoli yn ddieithr i lawer o Fwdhyddion. Wrth dystiolaethu i bobl fel hyn, mae rhai cyhoeddwyr o Brydain yn hoff o ddefnyddio’r llyfryn Lasting Peace and Happiness—How to Find Them. Yn dilyn y cyflwyniad maen nhw’n trafod y rhan “Is There Really a Most High Creator?” ac yna’r rhan “A Guidebook for the Blessing of All Mankind.” Ar ôl gwneud hyn, efallai gall y cyhoeddwr gyflwyno’r llyfr Beibl Ddysgu a dweud wrth y deiliad, “Hyd yn oed os nad ydych chi’n credu yn Nuw, bydd astudio’r Beibl yn eich helpu oherwydd mae’n cynnwys llawer o arweiniad ymarferol.” Dywedodd un arloeswr sy’n gwasanaethu yn y maes Tsieineaidd yn America: “Mae llawer yn ein tiriogaeth yn mwynhau darllen. Felly, yn aml maen nhw wedi darllen y cyhoeddiad cyfan cyn inni alw’n ôl. Ond efallai nad ydyn nhw’n deall y syniad o astudiaeth Feiblaidd. Felly, dw i’n hoff iawn o gynnig y llyfryn Newyddion Da oherwydd mae hwnnw wedi ei ysgrifennu mewn ffordd sy’n annog trafodaeth.” Dywedodd arolygwr cylchdaith yn y maes Tsieineaidd yn America ei bod hi’n bosibl cynnig y llyfr Beibl Ddysgu ar yr alwad gyntaf. Ond, efallai byddai’n well i ddechrau’r astudiaeth ym mhennod 2, sy’n rhoi cyflwyniad i’r Beibl, yn hytrach na phennod 1, sy’n sôn mwy am Dduw.
5. Pam mae’n bwysig i fod yn amyneddgar?
5 Mae’n cymryd amser i rywun adeiladu ffydd yn Nuw, felly mae’n hanfodol inni fod yn amyneddgar. Efallai na fydd ein sgyrsiau cyntaf yn perswadio rhywun i gredu mewn Creawdwr. Ond efallai mewn amser, bydd yn cydnabod y posibilrwydd fod yna Greawdwr, neu hwyrach bydd yn deall sut gall rhywun ddod i’r casgliad hwnnw.
6. Pam nad oes gan rai pobl ddiddordeb yn y Beibl?
6 Y Rhai Sydd â Diffyg Diddordeb neu Hyder yn y Beibl: Yn aml, down ar draws rhywun sy’n derbyn bodolaeth Duw ond yn gwrthod y Beibl oherwydd nad yw’n credu mai Gair Duw yw’r Beibl. Efallai ei fod yn byw mewn gwlad ddi-Gristnogol ac yn cysylltu’r Beibl â gau Gristnogaeth. Neu, efallai ei fod yn byw mewn gwlad sy’n honni bod yn Gristnogol ond mewn gwirionedd nid yw’r bobl yn grefyddol. Sut gallwn ni helpu pobl o’r fath i ddatblygu diddordeb yn y Beibl ac yn y pen draw dderbyn astudiaeth yn y llyfr Beibl Ddysgu?
7. Sut gallwn ni ennyn diddordeb pobl yn y Beibl?
7 Ysgrifennodd swyddfa gangen Gwlad Groeg: “Y ffordd orau o helpu pobl sydd â diffyg diddordeb yn y Beibl yw drwy ei agor a dangos iddyn nhw beth mae’n ei gynnwys. Mae nifer o gyhoeddwyr wedi sylweddoli bod neges y Beibl yn dylanwadu ar galonnau pobl llawer mwy nag unrhyw beth y maen nhw’n ei ddweud. (Heb. 4:12) Mae gweld enw Duw yn y Beibl wedi ysgogi llawer i astudio’r Beibl.” Ysgrifennodd swyddfa gangen India: “Mae’r gwirionedd ynglŷn â bywyd a marwolaeth yn denu llawer o Hindŵiaid, fel y mae addewid y Beibl ynglŷn â byd lle nad oes statws cymdeithasol.” Mae cyfeirio at faterion lleol yn rhoi cyfle i gyhoeddwyr ddangos o’r Beibl beth fydd Teyrnas Dduw yn ei gwneud i ddatrys y problemau.
8. Beth y gallwn ni ei ddweud petai gau Gristnogaeth wedi dylanwadu ar agwedd rhywun ac wedi achosi barn negyddol tuag at y Beibl?
8 Petai gan rywun agwedd negyddol tuag at y Beibl oherwydd gau Gristnogaeth, gadewch iddo wybod fod gau Gristnogaeth wedi camgyfleu’r Beibl a’i ddysgeidiaethau. Ysgrifennodd swyddfa gangen India: “Ar adegau, mae angen inni helpu unigolion i sylweddoli nad yw’r Beibl yn perthyn i’r eglwysi yn unig.” Dywedodd y gangen fod rhan 4 o’r llyfryn What Is the Purpose of Life? How Can You Find It? yn gwneud argraff dda ar Hindŵiaid. Mae’n egluro sut ceisiodd yr eglwysi lygru a dinistrio Gair Duw. Mae un arloeswr ym Mrasil yn rhesymu: “Beth am ichi ddarganfod mwy am gynnwys y Beibl? Mae nifer o bobl yn gwneud hyn gyda meddwl agored, heb ymuno ag unrhyw grefydd. Efallai byddwch chi’n synnu ar beth mae’r Beibl yn ei ddweud.”
9. Pam na ddylen ni roi’r ffidil yn y to os nad yw’r person, ar y dechrau, yn dangos diddordeb yn y Beibl?
9 Mae Jehofah yn edrych ar galon pob un. (1 Sam. 16:7; Diar. 21:2) Mae’r rhai gyda chalonnau cyfiawn yn cael eu denu ganddo at wir addoliad. (Ioan 6:44) Mae llawer heb gael y cyfle i ddysgu am Dduw na ryw lawer o gysylltiad â’r Beibl. Mae ein gweinidogaeth ni yn rhoi cyfle i bobl ‘gael eu hachub a dod i ganfod y gwirionedd.’ (1 Tim. 2:4) Felly, os nad oes gan bobl ddiddordeb ar y dechrau yn nysgeidiaethau’r Beibl, daliwch ati! Defnyddiwch un o’r cyhoeddiadau sydd ar gael yn eu hiaith nhw i ennyn eu diddordeb. Yn y pen draw, efallai gallwch drosglwyddo eich trafodaeth i’n prif werslyfr ar gyfer cynnal astudiaethau, Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
[Blwch ar dudalen 4]
Os yw’r deiliad yn dweud nad yw’n credu yn Nuw, rhowch gynnig ar hyn:
• Er mwyn darganfod y rheswm pam, gofynnwch, “Ydych chi wastad wedi teimlo fel yna?”
• Petai’r deiliad yn Fwdhydd, defnyddiwch y llyfryn Lasting Peace and Happiness—How to Find Them, tudalennau 9-12.
• Petai’n credu mewn esblygiad, efallai byddai’r cyfeiriadau canlynol yn eich helpu chi:
Cyfres yn yr Awake! “Was It Designed?”
Y fideo, The Wonders of Creation Reveal God’s Glory
Y llyfrynnau A Satisfying Life—How to Attain It, rhan 4; A Gafodd Bywyd ei Greu?; a The Origin of Life—Five Questions Worth Asking
• Petai’r deiliad wedi colli ei ffydd yn Nuw oherwydd anghyfiawnder a dioddefaint, efallai byddai’r cyfeiriadau canlynol yn helpu:
Y llyfr Is There a Creator Who Cares About You?, pennod 10
Y llyfrynnau Ydy Duw yn Gwir Ofalu Amdanon Ni?, rhan 6, a What Is the Purpose of Life?, rhan 6
• Unwaith mae’r deiliad yn agored i’r posibilrwydd fod Duw yn bodoli, trosglwyddwch i’r llyfr Beibl Ddysgu. Efallai byddai’n ddoeth i gychwyn gyda phennod 2 neu bwnc arall sy’n addas iddo.
[Blwch ar dudalen 5]
Ceisiwch roi hyn ar waith os nad yw’r deiliad yn credu yn y Beibl:
• Trafodwch benodau 17 ac 18 o’r llyfr Life—How Did It Get Here? By Evolution or by Creation?
• Ar gyfer Hindŵiaid, defnyddiwch y llyfryn Why Should We Worship God in Love and Truth?
• Ar gyfer Iddewon, defnyddiwch y llyfryn Will There Ever Be a World Without War?, tudalennau 3-11.
• Trafodwch ddoethineb egwyddorion y Beibl. Cyhoeddiadau sydd ar gael i ddangos gwerth ymarferol y Beibl:
Y gyfres yn yr Awake! “Help for the Family”
Y fideo The Bible—Its Power in Your Life
Y llyfrynnau Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!, gwersi 9 ac 11; Llyfr i Bawb, tudalennau 22-26; ac A Satisfying Life—How to Attain It, rhan 2
Ar gyfer Bwdhyddion, defnyddiwch y llyfryn The Pathway to Peace and Happiness, tudalennau 3-7.
Ar gyfer Moslemiaid, defnyddiwch y llyfryn Real Faith—Your Key to a Happy Life, rhan 3.
Os ydych chi’n pregethu mewn ardal lle mae pobl yn erbyn y Beibl, efallai byddai’n gall i beidio â datgelu ffynhonnell y geiriau doeth tan ar ôl nifer o sgyrsiau â’r deiliad.
• Eglurwch sut mae proffwydoliaethau’r Beibl wedi dod yn wir. Cyhoeddiadau y gallwch ddefnyddio:
Y fideo The Bible—Accurate History, Reliable Prophecy
Y llyfryn Llyfr i Bawb, tudalennau 27-29
• Unwaith i’r deiliad gofyn cwestiynau ar ambell bwnc Beiblaidd, trosglwyddwch i’r llyfr Beibl Ddysgu.
[Blwch ar dudalen 6]
Petai’r deiliad yn dweud: “Dydw i ddim yn credu yn Nuw,” gallwch ddweud:
• “Alla’ i ddangos ichi beth sy’ wedi fy mherswadio i i gredu mewn Creawdwr?” Wedyn trafodwch bwyntiau o’r llyfr Reasoning, tudalennau 84-86, neu gwnewch drefniadau i fynd yn ôl gyda chyhoeddiad roeddech chi’n mwynhau ei ddarllen.
• “Ond petai Duw yn bodoli, sut un buasech chi’n hoffi iddo fod?” Bydd y rhan fwyaf o bobl yn dweud eu bod nhw eisiau Duw cariadus, cyfiawn, tirion, a theg. Gan ddefnyddio’r Beibl, dangoswch iddo fod gan Dduw rinweddau o’r fath. (Gallwch hyd yn oed ddefnyddio pennod 1 o’r llyfr Beibl Ddysgu, gan ddechrau o baragraff 6.)
Petai’r deiliad yn dweud: “Dydw i ddim yn credu yn y Beibl,” efallai gallwch ddweud:
• “Mae llawer yn teimlo’r un fath. Mae gan rai’r argraff nad yw’r Beibl yn llyfr gwyddonol a bod ei safonau’n anymarferol. Ond, ydych chi erioed wedi darllen y Beibl? [Arhoswch am ymateb. Wedyn dangoswch y cyflwyniad ar dudalen 3 o’r llyfryn Llyfr i Bawb, ac wedyn cynigiwch y llyfryn.] Mae ffydd llawer yn y Beibl wedi cael ei siglo oherwydd mae crefydd wedi camliwio ei ddysgeidiaethau. Tro nesaf, byddwn yn hoff iawn o drafod enghraifft o hyn ar dudalennau 4 a 5.”
• “Mae llawer o bobl o’r un farn. Alla’ i ddangos rhywbeth ichi a oedd yn gwneud argraff arna’ i ynglŷn â’r Beibl? [Darllenwch Job 26:7 neu Eseia 40:22, sy’n dangos bod y Beibl yn wyddonol gywir.] Mae’r Beibl hefyd yn cynnwys cyngor doeth sy’n helpu teuluoedd. Tro nesaf dw i yma, buaswn i’n mwynhau dangos enghraifft ichi.”
• “Diolch am ddweud hynny wrthyf. Petai Duw wedi ysgrifennu llyfr ar gyfer pobl, beth byddai wedi ei gynnwys ynddo?” Wedyn, dangoswch rywbeth o’r Beibl sy’n cytuno gyda’r hyn y maen nhw wedi ei ddweud.