Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Mai
“Ydych chi’n meddwl bod crefydd yn dod â heddwch neu gasineb a thrais? [Arhoswch am ymateb.] Gadewch i mi ddangos rhywbeth diddorol ichi ar y pwnc.” Trowch i dudalen 16 o’r Watchtower Mai 1, a thrafodwch y paragraffau o dan yr is-bennawd cyntaf ac o leiaf un o’r adnodau. Cynigiwch y cylchgronau, a threfnwch i ddod yn ôl i drafod y cwestiwn nesaf.
The Watchtower Mai 1
“Mae llawer o bobl yn meddwl na ddylid cymysgu crefydd a gwleidyddiaeth, ond mae eraill yn anghytuno. Beth ydy’ch barn chi? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar ymateb Iesu wrth i rai geisio ei berswadio i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. [Darllenwch Ioan 6:15.] Mae’r cylchgrawn hwn yn egluro ymateb Iesu, ac yn dangos y ffordd orau i Gristnogion helpu eu cymunedau.”
Awake! Mai
“Ryw dro neu’i gilydd mae bron pawb wedi cael eu trin yn annheg. Ydych chi’n meddwl ei bod hi’n bosibl i gael gwared ar anghyfiawnder? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r broffwydoliaeth hon yn sôn am frenin a fydd yn rhoi terfyn ar anghyfiawnder. [Darllenwch Salm 72:11-14.] Mae’r cylchgrawn hwn yn dangos addewidion y Beibl am ddyfodol cyfiawn.”