Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Mehefin
Darllenwch Eseia 12:4. Yna dywedwch: “Yn ôl yr adnod hon, mae gan Dduw enw. Ydych chi’n meddwl ei bod hi’n bwysig inni wybod beth ydy enw Duw ac i’w ddefnyddio? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar beth mae’n ei ddweud yma.” Rhowch gopi o Watchtower Mehefin 1 i’r deiliad a thrafodwch y deunydd o dan yr is-bennawd cyntaf ar dudalen 16. Cynigiwch y cylchgronau, a threfnwch i alw’n ôl i drafod y cwestiwn nesaf.
The Watchtower Mehefin 1
“Hoffwn wybod eich barn ar bwnc pwysig. [Trowch i dudalen 3, a dangoswch y rhestr.] Pa un o’r rhain sy’n disgrifio eich barn chi ynglŷn â’r Beibl? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar beth mae’r Beibl yn ei ddweud amdano’i hun. [Darllenwch Rhufeiniaid 15:4.] Mae’r cylchgrawn hwn yn trafod pam mae’r Beibl yn llyfr unigryw, a sut y mae’n gallu ein helpu ni.”
Awake! Mehefin
“Bob blwyddyn, mae bwyd drwg yn achosi miliynau o bobl ledled y byd i fynd yn sâl. Pa mor ddiogel ydy’r bwyd yn y wlad hon? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r cylchgrawn hwn yn dangos pedwar peth a all ein helpu ni i gadw’n iach drwy osgoi afiechydon sy’n gysylltiedig â bwyd drwg. Hefyd, fe welwn ni fod y Beibl yn addo y bydd digonedd o fwyd iachus ar gael i bawb yn fuan.” Darllenwch Salm 104:14, 15.