LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 10/12 t. 1
  • A Fedrwch Chi Dystiolaethu Gyda’r Nos?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • A Fedrwch Chi Dystiolaethu Gyda’r Nos?
  • Ein Gweinidogaeth—2012
  • Erthyglau Tebyg
  • Gwneud y Defnydd Gorau o’ch Amser yn y Weinidogaeth
    Ein Gweinidogaeth—2015
  • Torri Tir Newydd—Tystiolaethu’n Gyhoeddus
    Ein Gweinidogaeth—2013
Ein Gweinidogaeth—2012
km 10/12 t. 1

A Fedrwch Chi Dystiolaethu Gyda’r Nos?

1. Yn ôl un ysgolhaig, pryd roedd yr apostol Paul yn pregethu o dŷ i dŷ?

1 Yn ôl y llyfr Daily Life in Bible Times, roedd Paul yn arfer pregethu o ddrws i ddrws rhwng “4 yn y prynhawn tan hwyr yn y nos.” Dydyn ni ddim yn hollol sicr a oedd Paul yn dilyn yr amserlen honno, ond rydyn ni’n sicr ei fod yn fodlon “gwneud pob peth” dros y newyddion da. (1 Cor. 9:19-23) Byddai’n rhaid iddo drefnu ei amgylchiadau fel ei fod yn medru mynd o dŷ i dŷ pan fyddai pobl yn debygol o fod gartref.

2. Pam mae’n dda i fynd allan yn y weinidogaeth gyda’r nos?

2 Mewn llawer o lefydd mae’r cyhoeddwyr, fel arfer, yn mynd o dŷ i dŷ yn y boreau yn ystod yr wythnos. Ond, ai dyna’r amser gorau yn eich ardal chi? Dywedodd un arloeswr ynglŷn â’i diriogaeth: “Does neb bron adref yn ystod y dydd. Ond mae’r rhan fwyaf o bobl adref gyda’r nos.” Efallai gyda’r nos yw’r amser gorau i gwrdd â dynion yn arbennig. Yn aml mae’r deiliad wedi ymlacio ac yn barod i gael sgwrs. Os yw’n briodol, dylai’r henuriaid drefnu cyfarfodydd ar gyfer y weinidogaeth gyda’r nos.

3. Sut medrwn ni fod yn gall wrth bregethu gyda’r nos?

3 Byddwch yn Gall: Wrth inni bregethu gyda’r nos, mae’n bwysig inni fod yn gall. Er enghraifft, os ydych chi’n galw ar rywun ar amser anghyfleus, amser cinio efallai, mae’n well trefnu amser mwy cyfleus i alw’n ôl. Os yw hi’n dywyll, sefwch lle gall y deiliad eich gweld chi, a dywedwch yn syth pwy ydych chi a pham rydych yn galw. Hefyd, peth ddoeth fyddai gweithio mewn parau, neu mewn grwpiau, a chadw at y strydoedd lle mae digon o oleuadau, a lle na fyddwch chi’n rhy bell oddi wrth weddill y brodyr. Peidiwch â galw mor hwyr fel bod pobl yn dechrau mynd i’w gwelyau. (2 Cor. 6:3) Os yw’r ardal yn un sy’n troi’n beryglus ar ôl iddi dywyllu, pregethwch yno yn gynnar yn y noson.—Diar. 22:3.

4. Pa fendithion a gawn ni drwy bregethu gyda’r nos?

4 Bendithion: Rydyn ni’n cael llawer mwy o lawenydd yn y weinidogaeth pan ydyn ni’n medru tystiolaethu i bobl. Y mwyaf rydyn ni’n pregethu, y mwyaf rydyn ni’n cael cyfle i helpu eraill i gael eu ‘hachub a dod i ganfod y gwirionedd.’ (1 Tim. 2:3, 4) A fedrwch chi addasu eich amserlen er mwyn ichi fedru pregethu gyda’r nos?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu