Gwneud y Defnydd Gorau o’ch Amser yn y Weinidogaeth
Treuliodd Tystion Jehofa 1,945,487,604 o oriau yn y weinidogaeth yn ystod blwyddyn wasanaeth 2014. Mae hyn yn dystiolaeth glir ein bod ni’n benderfynol o aros yn brysur yn ein gwasanaeth i Jehofa! (1 Cor. 15:58) Gan fod “amser wedi mynd yn brin,” a yw’n bosibl inni ddefnyddio ein horiau gwerthfawr yn y weinidogaeth i gysylltu â mwy o bobl?—1 Cor. 7:29.
Mae gwneud y defnydd gorau o’n hamser yn y weinidogaeth yn gofyn am hyblygrwydd. Er enghraifft, os ydych yn treulio awr neu fwy yn rheolaidd mewn un agwedd o’r weinidogaeth ond heb siarad ag unrhyw un, a allwch chi wneud newidiadau er mwyn dod o hyd i fwy o bobl? Mae amgylchiadau’n amrywio o un lle i’r llall. Ond, gall yr awgrymiadau canlynol eich helpu chi i wneud defnydd gwell o’ch amser er mwyn osgoi ‘curo’r awyr â’ch dyrnau.’—1 Cor. 9:26.
Tystiolaethu o Dŷ i Dŷ: Am flynyddoedd lawer, mae cyhoeddwyr wedi arfer dechrau’r diwrnod yn y weinidogaeth drwy fynd o dŷ i dŷ. Ond, gan fod nifer o bobl yn gweithio yn ystod y dydd, beth am i chi geisio pregethu o dŷ i dŷ yn hwyrach yn y prynhawn, neu’n gynnar yn y nos, pan fydd mwy o bobl yn ymlacio gartref? Yn ystod y dydd, efallai bydd tystiolaethu’n gyhoeddus neu weithio tiriogaeth fusnes yn fwy effeithiol.
Tystiolaethu’n Gyhoeddus: Dylid gosod byrddau a throlïau mewn mannau prysur yn nhiriogaeth y gynulleidfa. (Gweler Ein Gweinidogaeth Gorffennaf 2013, t. 5.) Os yw tiriogaeth sydd wedi ei phenodi ar gyfer tystiolaethu cyhoeddus wedi mynd yn llai prysur dros gyfnod, gall Pwyllgor Gwasanaeth y Gynulleidfa drefnu i’r trolïau neu’r byrddau gael eu hail-leoli mewn ardal brysurach.
Ail Alwadau ac Astudiaethau Beiblaidd: Ydy’n bosibl trefnu eich ail alwadau ac astudiaethau Beiblaidd ar gyfer amser pan fydd mathau eraill o’r weinidogaeth yn llai effeithiol? Er enghraifft, os yw’r weinidogaeth o dŷ i dŷ yn effeithiol ar fore Sadwrn, oes modd cynnal yr astudiaeth Feiblaidd yn y prynhawn neu gyda’r nos? Wrth alw’n ôl ar ail alwadau, a all cyhoeddwyr rannu i grwpiau ceir llai er mwyn cyflawni mwy yn y weinidogaeth?
Er ein bod ni’n gallu cyfrif unrhyw amser rydyn ni’n ei dreulio yn y weinidogaeth, cawn fwy o lawenydd pan fo’n hymdrechion yn ffrwythlon. Os yw un agwedd o’r weinidogaeth yn llai effeithiol ar adeg benodol o’r dydd, rhowch gynnig ar agwedd arall. Gweddïwch ar Jehofa, “Arglwydd y cynhaeaf,” am ei arweiniad er mwyn gwneud y defnydd gorau o’ch amser yn y weinidogaeth!—Math. 9:38.