Torri Tir Newydd—Tystiolaethu’n Gyhoeddus
1. Pa esiampl gosododd Gristnogion y ganrif gyntaf?
1 Roedd y Cristnogion yn y ganrif gyntaf yn gwneud mwy na thystiolaethu o dŷ i dŷ. Roedden nhw hefyd yn tystiolaethu’n gyhoeddus. (Act. 20:20) Er enghraifft, roedden nhw’n mynd i’r deml lle gwyddon nhw y byddai llawer o bobl. (Act. 5:42) Bob dydd pan oedd Paul yn Athen, pregethodd i bawb a oedd ar gael yn y farchnad. (Act. 17:17) Fel mae hi wedi bod erioed, ein prif ffordd o bregethu’r newyddion da heddiw yw drwy fynd o dŷ i dŷ. Ond hefyd, rydyn ni’n mynd i feysydd parcio, busnesau, parciau, lleoedd prysur, ac unrhyw le mae pobl yn mynd a dod. Tra bod pob cyhoeddwr yn cael ei annog i dystiolaethu’n gyhoeddus pan mae’n bosibl, bydd llawer yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn dwy fenter newydd.
2. Pa syniad rhoddwyd ar brawf ym mis Tachwedd 2011?
2 Tystiolaethu Cyhoeddus Metropolitan Arbennig: Fel y gallwch ddarllen yn Yearbook 2013 ar dudalennau 16 ac 17, ym mis Tachwedd 2011 rhoddwyd syniad newydd ar brawf i dystiolaethu’n gyhoeddus yn Ninas Efrog Newydd. Gosodwyd yn ardaloedd prysur o’r ddinas byrddau a throlïau gydag arddangosfeydd deniadol a llenyddiaeth mewn nifer o ieithoedd. Bob dydd cerddodd miloedd o bobl heibio, gan gynnwys rhai sydd yn aml i ffwrdd o’u cartrefi a nifer mawr sy’n byw mewn fflatiau lle nad oes modd cael mynediad iddyn nhw. Roedd yr ymateb yn syfrdanol. Yn ddiweddar, mewn un mis cafodd 3,797 o gylchgronau a 7,986 o lyfrau eu dosbarthu. Gofynnodd nifer o bobl a aeth heibio am astudiaeth o’r Beibl. Y prif nod oedd dechrau astudiaethau Beiblaidd. Felly, anfonwyd cyfeiriadau’r rhai a oedd gyda diddordeb i’r cynulleidfaoedd priodol yn syth er mwyn meithrin eu diddordeb.
3. Sut mae’r fenter hon yn cael ei hestyn allan?
3 Roedd y fenter yn llwyddiant felly mae’n cael ei ymestyn i ardaloedd eraill sy’n drwchus eu poblogaeth ledled y byd. Bydd swyddfa’r gangen leol yn nodi pa ddinasoedd fydd yn elwa o’r fenter. Ar y cyfan bydd gan y dinasoedd sy’n cael eu dewis heidiau o bobl yn cerdded o gwmpas, prif orsafoedd trafnidiaeth, a llawer o swyddfeydd neu fflatiau. Mae swyddfa gangen Prydain wrthi’n trefnu cynllun peilot ar gyfer Llundain a Birmingham. Mae’r gangen eisoes wedi ysgrifennu at y cynulleidfaoedd a fydd yn cymryd rhan ac wedi rhoi cyfarwyddyd pellach iddyn nhw. Fel arfer bydd arloeswyr arbennig a pharhaol yn cael eu defnyddio, ond weithiau bydd arloeswyr cynorthwyol hefyd yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn y gwaith hwn.
4. Sut mae’r gwaith o dystiolaethu cyhoeddus metropolitan arbennig yn cael ei wneud?
4 Y Ffordd Mae’r Gwaith yn Cael ei Wneud: Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn y tystiolaethu cyhoeddus metropolitan arbennig fel arfer yn aros i rywun nesáu at y bwrdd neu’r arddangosfa symudol. Wedyn maen nhw’n gwahodd y person i gymryd unrhyw lenyddiaeth sy’n denu ei sylw. Mae’r arloeswyr yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddo o’r Beibl. Pan gymerith person lenyddiaeth, nid yw’r arloeswyr yn sôn am y drefn o roi cyfraniadau. Ond, os yw’n holi sut mae’r gwaith yn cael ei ariannu, gallan nhw egluro fod hi’n bosibl anfon cyfraniadau i’r cyfeiriad a restrir yn y llenyddiaeth. Pan mae’n bosibl, gallan nhw ofyn: “Ydych chi eisiau i rywun ddod i’ch gweld chi gartref?” neu “Ydych chi’n gwybod ein bod ni’n cynnig astudiaeth o’r Beibl am ddim gyda’r cyhoeddiad hwnnw?”
5. Pa fendithion gafodd un cwpl o gymryd rhan yn y fenter newydd hon?
5 Mae cymryd rhan yn y gwaith hwn wedi dod â bendithion. Ysgrifennodd un cwpl: “Mae sefyll wrth ymyl y bwrdd a gweld miloedd o bobl yn cerdded heibio bob dydd wedi gwneud inni sylweddoli’r gwaith enfawr sy’n cael ei wneud i gyrraedd pobl o gwmpas y byd. Mae gweld y torfeydd, a meddwl am y ffaith bod Jehofah yn caru pob unigolyn, yn gwneud inni deimlo’n fwy penderfynol o gadw’r gwaith pregethu yn flaenoriaeth. Rydyn ni’n dychmygu Jehofah yn chwilio am rywbeth da ym mhob un sy’n cerdded heibio’r bwrdd. Yn y gwaith hwn rydyn ni’n teimlo mor agos at ein cyd-weithwyr, yr angylion.”
6. (a) Pa fenter ychwanegol sy’n cael ei threfnu gan lawer o gynulleidfaoedd er mwyn tystiolaethu’n gyhoeddus, a sut mae’r fenter hon yn wahanol i dystiolaethu cyhoeddus metropolitan arbennig? (b) Sut gall cynulleidfaoedd gydweithio wrth dystiolaethu’n gyhoeddus?
6 Tystiolaethu Cyhoeddus Sy’n Cael ei Drefnu’n Lleol: Yn ychwanegol i dystiolaethu cyhoeddus metropolitan arbennig, mae llawer o gyrff henuriaid yn trefnu menter newydd yn eu tiriogaethau lleol. Gyda’r fenter hon, mae cyhoeddwyr yn defnyddio bwrdd neu arddangosfa symudol mewn man prysur o fewn ffiniau tiriogaeth y gynulleidfa. Mae hyn yn wahanol i dystiolaethu cyhoeddus metropolitan arbennig, sydd o dan arweiniad swyddfa’r gangen ac yn defnyddio pobl o nifer o gynulleidfaoedd i dystiolaethu mewn mannau prysur dinasoedd.—Gweler y blwch “Yr Angen am Gydweithrediad Da.”
7. Pan mae’n addas, sut bydd yr henuriaid yn trefnu i dystiolaethu’n gyhoeddus yn nhiriogaeth y gynulleidfa?
7 Bydd yr henuriaid yn ystyried os oes gan y gynulleidfa ardaloedd prysur lle mae llawer o gerddwyr ynddyn nhw, ac yna penderfynu os yw’n addas i drefnu tystiolaethu’n gyhoeddus. Mae’n bosibl gosod bwrdd neu arddangosfa symudol mewn prif orsafoedd trafnidiaeth, sgwariau cyhoeddus, parciau, strydoedd prysur, canolfannau siopa, colegau, meysydd awyr, a lleoliadau digwyddiadau blynyddol. Y mae mantais o osod bwrdd yn yr un lle, ar yr un diwrnod, ac ar yr un amser. Mae wedi cael ei brofi iddi fod yn fwy effeithiol i osod bwrdd mewn canolfan siopa yn hytrach na thu allan i un siop fawr lle mae pobl yn canolbwyntio ar eu rheswm dros fynd i’r siop honno. Mewn rhai lleoedd, fel palmentydd prysur, mae’n fwy addas i osod arddangosfa lenyddiaeth symudol fechan. Gall yr henuriaid lawrlwytho o’n Wefan ffeiliau arbennig i wneud arddangosfeydd o’r Watchtower a’r Awake! a’r Beibl Ddysgu. Mae’r ffeiliau hyn wedi eu creu yn benodol ar gyfer tystiolaethu’n gyhoeddus. Dylai’r rhai sy’n cymryd rhan yn y gwaith hwn eu gwneud yn yr un modd â’r tystiolaethu cyhoeddus metropolitan arbennig, a dylen nhw ddilyn yn fanwl arweiniad yr arolygwr gwasanaeth. Os ydyn nhw’n derbyn cyfeiriad gan rywun nad yw’n byw yn eu tiriogaeth ond sydd gyda diddordeb, dylen nhw lenwi ffurflen Please Follow Up (S-43) yn brydlon a’i rhoi i’r ysgrifennydd.
8. Os nad oes trefniadau yn eich cynulleidfa ar gyfer tystiolaethu’n gyhoeddus, pa gyfleoedd efallai fydd ar gael i chi?
8 Tystiolaethu Cyhoeddus yn Eich Gweinidogaeth Bersonol: Efallai nad oes safle digon prysur yn nhiriogaeth rhai cynulleidfaoedd i gyfiawnhau osod bwrdd neu arddangosfa lenyddiaeth symudol. Hyd yn oed yn y cynulleidfaoedd hyn, peth da fyddai i gyhoeddwyr geisio tystiolaethu’n gyhoeddus yn eu gweinidogaeth bersonol. Oes ardal siopa neu siop brysur yn eich tiriogaeth chi? Oes parc neu rywle lle mae pobl yn ymgynnull? Oes digwyddiadau cyhoeddus yn eich tiriogaeth chi sy’n cael eu cynnal yn rheolaidd? Os oes, efallai gallwch fwynhau tystiolaethu’n gyhoeddus.
9. Pam dylen ni wneud yr ymdrech i bregethu ble bynnag mae’r bobl?
9 Ewyllys Jehofah yw gweld “pob un yn cael ei achub ac yn dod i ganfod y gwirionedd.” (1 Tim. 2:4) Felly, rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i gyrraedd cymaint ag y medrwn ni gyda neges y Deyrnas cyn daw’r diwedd. (Math. 24:14) Mewn llawer o leoedd, mae’n her i ddarganfod pobl yn eu tai. Ond, efallai gallwn siarad â nhw tra bod nhw allan o’u cartrefi mewn lle cyhoeddus. Efallai, yr unig ffordd y bydd rhai pobl yn cael y cyfle i glywed y newyddion da yw drwy ein tystiolaethu cyhoeddus. Felly, gadewch inni gyflawni ein gweinidogaeth drwy bregethu ble bynnag y gallwn gael hyd i bobl.—2 Tim. 4:5.
[Blwch ar dudalen 5]
Yr Angen am Gydweithrediad Da
Adroddwyd bod rhai cyhoeddwyr o gynulleidfaoedd cyfagos wedi tystiolaethu’n gyhoeddus ar yr un stryd, yn yr un maes parcio, ac o flaen yr un busnesau neu’r un prif orsafoedd trafnidiaeth. Gadawodd cyhoeddwyr o wahanol gynulleidfaoedd gylchgronau yn yr un cyntedd, ystafell aros, neu londrét, a phregethon nhw yn yr un busnesau. Mae hyn wedi mynd o dan groen trigolion a phobl busnes, hyd yn oed os nad yw’r cyhoeddwyr yn pregethu ar yr un adeg. Felly, mae’n well aros o fewn ffiniau tiriogaeth eich cynulleidfa pan rydych yn tystiolaethu’n gyhoeddus.
Os yw cyhoeddwyr yn dymuno gweithio dros ffin eu tiriogaeth, dylen nhw siarad â’u harolygwr gwasanaeth. Bydd y brawd hwn yn cysylltu â’r arolygwr gwasanaeth o’r gynulleidfa arall i ofyn am ganiatâd cyn iddyn nhw fynd yno i bregethu. Lle mae cynulleidfaoedd ieithoedd gwahanol yn pregethu yn yr un ardal, dylai’r arolygwyr gwasanaeth gyfathrebu â’i gilydd er mwyn osgoi gwylltio pobl yn y diriogaeth yn ddiangen. Drwy gydweithio’n dda, gall popeth ddigwydd “yn weddus ac mewn trefn.”—1 Cor. 14:40.
[Lluniau ar dudalen 6]
[Lluniau ar dudalen 6]