Defnyddiwch Draethodynnau i Gyhoeddi’r Newyddion Da
1. Sut mae pobl Dduw wedi defnyddio traethodynnau?
1 Mae pobl Jehofah wedi defnyddio traethodynnau i gyhoeddi’r newyddion da am amser maith. Ym 1880, dechreuodd C. T. Russell a’i gyd-weithwyr gynhyrchu Bible Students’ Tracts, a gofyn i ddarllenwyr y Watch Tower eu dosbarthu i’r cyhoedd. Oherwydd bod traethodynnau mor bwysig i ledaenu’r newyddion da, fe wnaeth C. T. Russell gynnwys y gair “tract” yn enw cofrestredig y gymdeithas a sefydlwyd ym 1884, sef Zion’s Watch Tower Tract Society, sydd bellach yn cael ei galw’n Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania. Erbyn 1918, roedd Myfyrwyr y Beibl wedi dosbarthu dros 300 miliwn o draethodynnau. Mae traethodyn yn dal yn offer effeithiol heddiw.
2. Pam mae traethodynnau yn effeithiol?
2 Offer Effeithiol: Mae traethodynnau yn lliwgar, yn taro llygad, ac yn cynnwys neges gryno, ddiddorol, ac addysgiadol. Maen nhw’n apelio at bobl sy’n teimlo mai gwaith diflas yw darllen cylchgrawn neu lyfr. Mae traethodynnau yn hawdd eu cynnig, hyd yn oed i gyhoeddwyr newydd a phlant. Hefyd, maen nhw’n fach ac yn hawdd eu cario.
3. Adroddwch brofiad personol neu brintiedig sy’n dangos gwerth ein traethodynnau.
3 Daeth llawer o bobl i wybod y gwir am y tro cyntaf drwy ddarllen un o’n traethodynnau. Er enghraifft, gwelodd dynes yn Haiti draethodyn ar y stryd. Ar ôl ei godi a’i ddarllen, fe ddywedodd “Rwyf wedi darganfod y gwir!” Yn y pen draw, fe aeth hi i Neuadd y Deyrnas, dechreuodd astudio, ac fe gafodd hi ei bedyddio—hyn oll drwy nerth Gair Duw mewn traethodyn.
4. Beth yw ein nod pan fyddwn ni’n defnyddio traethodynnau fel cynnig y mis?
4 Tystiolaethu o Dŷ i Dŷ: Gan eu bod mor effeithiol yn y weinidogaeth, traethodynnau fydd cynnig y mis o dro i dro, a hynny yn cychwyn ym mis Tachwedd. Ein nod yw defnyddio traethodynnau i ddechrau sgyrsiau yn hytrach na’u dosbarthu nhw i rywun rywun. Os yw rhywun yn dangos diddordeb ar yr alwad gyntaf neu wrth inni alw’n ôl, gallwn ddangos sut rydyn ni’n cynnal astudiaeth drwy ddefnyddio’r llyfr Beibl Ddysgu neu gyhoeddiad astudio arall. Sut gallwn ni gynnig traethodynnau o dŷ i dŷ? Mae pob traethodyn yn wahanol, felly mae’n rhaid inni fod yn gyfarwydd â’r rhai rydyn ni’n eu cynnig.
5. Sut gallwn ni gynnig traethodynnau o dŷ i dŷ?
5 Dylen ni addasu ein cyflwyniad ar gyfer y diriogaeth a’r draethodyn rydyn ni’n ei defnyddio. Gallwn gychwyn sgwrs drwy roi’r traethodyn i’r deiliad. Efallai bydd y clawr deniadol yn ennyn diddordeb. Neu fe allwn ni ddangos mwy nag un a gadael i’r unigolyn ddewis pa un sy’n apelio ato. Wrth inni weithio tiriogaeth lle mae pobl yn annhebygol o agor y drws, gallwn ddal y traethodyn i fyny er mwyn i’r deiliad ei weld, neu ofyn am ganiatâd i roi rhywbeth trwy’r drws y byddwn ni’n hoffi cael ei farn arno. Gallwn ofyn am ei farn ar y teitl, os yw’n gwestiwn, neu ofyn cwestiwn ein hunain i ennyn diddordeb a dechrau sgwrs. Yna, gallwn ddarllen rhan o’r traethodyn i’r deiliad, gan seibio wrth gyrraedd y cwestiynau yn y testun a gofyn am ei safbwynt. Medrwn ddarllen yr adnodau allweddol o’r Beibl. Ar ôl inni drafod rhan o’r traethodyn, medrwn ni gloi’r sgwrs drwy drefnu amser i ddod yn ôl. Os ydy’r gynulleidfa fel arfer yn gadael llenyddiaeth mewn tai lle nad oes neb gartref, gallwn ni adael traethodyn allan o’r golwg.
6. Sut medrwn ni ddefnyddio traethodynnau wrth dystiolaethu ar y stryd?
6 Tystiolaethu ar y Stryd: Ydych chi wedi defnyddio’r traethodynnau wrth dystiolaethu ar y stryd? Mae rhai pobl yn rhy brysur i siarad â ni ar y stryd. Gall fod yn anodd gweld a oes ganddyn nhw wir ddiddordeb neu beidio. Yn hytrach na rhoi’r cylchgronau diweddaraf iddyn nhw a chithau ddim yn gwybod a fydden nhw’n eu darllen neu beidio, beth am gynnig traethodyn iddyn nhw? Efallai bydd clawr deniadol y traethodyn a’i neges fer yn perswadio pobl brysur i’w ddarllen. Wrth gwrs, os nad ydyn nhw ar frys, medrwn ni drafod rhan o’r traethodyn gyda nhw.
7. Adroddwch brofiadau sy’n dangos sut i ddefnyddio traethodynnau wrth bregethu’n anffurfiol.
7 Tystiolaethu’n Anffurfiol: Y mae’n hawdd defnyddio traethodynnau wrth dystiolaethu’n anffurfiol. Mae un brawd yn rhoi rhai yn ei boced bob tro mae’n gadael y tŷ. Pan fydd yn cyfarfod â rhywun, fel aelod o staff mewn siop, mae’n cynnig rhywbeth i’w ddarllen ac yn gadael traethodyn. Pan aeth cwpl i Efrog Newydd ar eu gwyliau, sylweddolon nhw y bydden nhw’n dod ar draws pobl o wahanol wledydd. Felly, fe aethon nhw â thraethodynnau mewn gwahanol ieithoedd gyda nhw ynghyd â’r llyfryn Nations. Yna, pan glywon nhw bobl a oedd yn siarad iaith dramor yn gwerthu pethau ar y stryd, neu’n eistedd mewn caffi, roedden nhw’n cynnig traethodyn yn iaith y bobl.
8. Ym mha ffordd y mae traethodynnau fel had?
8 “Hau Dy Had”: Gallwn ni gymharu traethodynnau â had. Mae ffermwr yn gorfod hau yn hael oherwydd nad yw’n gwybod faint o’r had a fydd yn egino. Mae Pregethwr 11:6 yn dweud: “Hau dy had yn y bore, a phaid â gorffwys cyn yr hwyr, oherwydd ni wyddost pa un a fydd yn llwyddo, neu a fydd y cyfan yn dda.” Felly, rydyn ni’n parhau i ‘wasgaru gwybodaeth’ drwy’r dull effeithiol hwn o bregethu.—Diar. 15:7.
[Broliant ar dudalen 3]
Gan fod traethodynnau yn ein helpu ni i bregethu’n effeithiol, o fis Tachwedd ymlaen byddwn ni’n eu defnyddio nhw o dro i dro fel cynnig y mis