Fformat Cyffrous Newydd ar Gyfer y Traethodynnau!
1. Pa adnoddau newydd sydd gennyn ni ar gyfer y weinidogaeth?
1 Cafodd pum traethodyn newydd eu cyhoeddi yn ystod Cynhadledd Ranbarth 2013 “God’s Word Is Truth!” Hefyd, ers hynny, mae Newyddion y Deyrnas Rhif 38 “A Fydd y Meirw yn Cael Byw Eto?” wedi cael ei ychwanegu at gyfres y traethodynnau. Mae pob un o’r traethodynnau newydd wedi cael ei dylunio gyda fformat newydd. Beth yw’r rhesymau dros ailgynllunio’r fformat? Wrth eu cynnig o ddrws i ddrws, sut gallwn ni wneud defnydd da o’r nodweddion newydd?
2. Beth yw pwrpas y fformat newydd?
2 Rhesymau Dros y Fformat Newydd: Yn aml, mae cyflwyniadau effeithiol yn cynnwys y pedwar cam canlynol: (1) Gofyn cwestiwn er mwyn cael barn y deiliad a dechrau sgwrs. (2) Darllen adnod o’r Beibl. (3) Cynnig llenyddiaeth i’r deiliad ei darllen. (4) Cloi gyda chwestiwn i ateb y tro nesaf rydych yn galw, a gwneud trefniadau i alw’n ôl. Mae fformat newydd y traethodynnau yn ein helpu ni i ddilyn y pedwar cam yn hawdd.
3. Sut gallwn ni gynnig un o’r traethodynnau newydd yn y weinidogaeth?
3 Sut i’w Defnyddio: (1) Ar ôl cyfarch y deiliad, dangoswch iddo’r cwestiwn diddorol ar flaen y traethodyn, a’r gwahanol atebion. Yna, gofynnwch iddo am ei farn. (2) Agorwch y traethodyn, darllenwch a thrafod y rhan “Mae’r Beibl yn Dweud.” Os yw’n addas, darllenwch yr adnod yn syth o’r Beibl. Petai’r deiliad gyda’r amser, trafodwch y rhan “Mae Hynny yn Golygu.” (3) Cynigiwch y traethodyn, ac annog y deiliad i’w ddarllen pan yw’n gyfleus. (4) Cyn gadael, dangoswch iddo’r cwestiwn ar y cefn o dan “Cwestiwn i Feddwl Amdano” a threfnwch i fynd yn ôl i drafod yr ateb o’r Beibl y tro nesaf.
4. Sut gallwn ni ddefnyddio’r traethodynnau wrth alw yn ôl ar rywun?
4 Mae galw yn ôl yn hawdd. Defnyddiwch yr adnodau sydd ar gefn y traethodyn i ateb y cwestiwn y gadawsoch y tro diwethaf. Cyn gadael, dangoswch y llun o’r llyfryn Newyddion Da, ac yna’r llyfryn ei hun ynghyd â’r wers gyfatebol sy’n cynnwys mwy o wybodaeth ar y pwnc. Wedyn cynigiwch y llyfryn. Os yw’r deiliad yn ei dderbyn, gwnewch drefniadau i drafod y llyfryn y tro nesaf rydych yn ymweld ag ef. Rydych wedi dechrau astudiaeth Feiblaidd! Neu, yn hytrach na chynnig y llyfryn, mae modd cynnig traethodyn arall a gwneud trefniadau i alw yn ôl i’w drafod.
5. Beth yw gwerth ein traethodynnau yn y weinidogaeth?
5 Mae traethodynnau wedi cael eu defnyddio yn ein gweinidogaeth am dros 130 o flynyddoedd. Er bod eu maint a’u fformat wedi amrywio, maen nhw wedi bod yn adnoddau defnyddiol iawn i dystiolaethu. Felly, defnyddiwch y fformat newydd i ddal ati i ledaenu’r newyddion da yn fyd-eang!—Diar. 15:7a.