EIN BYWYD CRISTNOGOL
Sut i Ddechrau Sgyrsiau gan Ddefnyddio Taflenni
Ers Ionawr 2018, mae clawr Gweithlyfr y Cyfarfodydd wedi dangos sgyrsiau enghreifftiol. Rydyn ni wedi cael ein hannog i ganolbwyntio ar ddechrau sgyrsiau â phobl yn hytrach na chynnig llenyddiaeth yn unig. Er mwyn helpu’r cyhoeddwyr i addasu eu cyflwyniadau, mae fideos y sgyrsiau enghreifftiol wedi dangos sut i ddechrau sgwrs gan ddefnyddio’r Beibl yn unig. Ydy hynny’n golygu na ddylen ni ddefnyddio llenyddiaeth wrth bregethu o ddrws i ddrws? Ddim o gwbl! Gall taflenni, er enghraifft, fod yn ffordd effeithiol o ddechrau sgwrs. Gallwn ni ddefnyddio’r dull canlynol wrth ddefnyddio pob un o’r taflenni:
Gofynna’r cwestiwn amlddewis ar flaen y daflen.
Tynna sylw at yr adnod(au) ar frig yr ail dudalen sy’n dangos ateb y Beibl. Os yw amser yn caniatáu, darllena a thrafoda dipyn o’r wybodaeth yn y daflen.
Rho’r daflen i’r deiliad a’i annog i ddarllen y gweddill yn ei amser ei hun.
Cyn ymadael, dangosa’r “Cwestiwn i Feddwl Amdano” a threfna i fynd yn ôl i drafod ateb y Beibl y tro nesaf.
Ar yr ail alwad, trafoda’r ateb ac yna gosoda gwestiwn arall i drafod y tro nesaf. Gelli di ddewis cwestiwn sydd ar ein gwefan neu sydd yn y cyhoeddiad y cyfeirir ato ar y dudalen gefn. Pan fu’n addas, cyflwyna’r llyfryn Newyddion Da Oddi Wrth Dduw! neu ddeunydd astudio arall o’n Bocs Tŵls Dysgu.