Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Tachwedd
“Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n awyddus i gael llywodraeth dda. Yn eich barn chi, pa fath o lywodraeth fyddai’n medru datrys problemau’r byd? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch beth mae’n ei ddweud yma.” Rhowch gopi o Watchtower Tachwedd 1 i’r deiliad ac ystyriwch yr wybodaeth o dan yr isbennawd cyntaf ar dudalen 16 ac o leiaf un o’r adnodau. Cynigiwch y cylchgronau, a threfnwch i fynd yn ôl i drafod y cwestiwn nesaf.
The Watchtower Tachwedd 1
“Hoffen ni ofyn eich barn. Petasech chi’n medru gofyn un cwestiwn i Dduw, beth fyddech chi’n ei ofyn? [Arhoswch am ymateb.] Yn ôl Iesu Grist, peth da yw chwilio am atebion i’n cwestiynau. [Darllenwch Mathew 7:7.] Mae’r cylchgrawn hwn yn rhoi atebion y Beibl i’r tri chwestiwn pwysig hyn.” Dangoswch y cwestiynau ar waelod tudalen 3.
Awake! Tachwedd
“Rydyn ni’n galw heddiw gyda gwybodaeth arbennig i helpu teuluoedd. Mae llawer mwy o deuluoedd rhiant sengl y dyddiau hyn. Ydych chi’n meddwl bod bywyd yn fwy anodd iddyn nhw nac i deuluoedd gyda dau riant? [Arhoswch am ymateb.] Mae llawer o rieni wedi cael cyngor ymarferol yn y Beibl. [Darllenwch 2 Timotheus 3:16.] Mae’r cylchgrawn hwn yn cynnig rhai syniadau a fydd yn helpu rhieni sengl i fagu teulu’n llwyddiannus.”