Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Tachwedd
“Rydyn ni’n siarad â phobl yn yr ardal ac yn trafod y cwestiwn diddorol hwn.” Dangoswch y traethodyn Sut Rydych Chi’n Teimlo am y Beibl? “Pa un o’r atebion yma fyddech chi’n ei ddewis?” Dangoswch yr opsiynau ac arhoswch am yr ymateb. Trafodwch y wybodaeth o dan yr is-bennawd “Mae’r Beibl yn Dweud” sy’n dyfynnu 2 Timotheus 3:16. Cynigiwch y traethodyn a threfnwch i fynd yn ôl i drafod y wybodaeth o dan yr is-bennawd “Cwestiwn i Feddwl Amdano.”
The Watchtower Tachwedd 1
“Ydych chi erioed wedi gofyn pam y mae gymaint o bethau ofnadwy yn digwydd ar draws y byd? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r Beibl yn rhoi’r ateb inni yn Datguddiad 12:9. [Darllen.] Ond, mae adnod 12 yn rhoi gobaith inni. [Darllenwch Datguddiad 12:12.] Yn fuan bydd dylanwad Satan yn dod i ben. Mae’r erthygl yma, ‘Should We Fear Satan?’, yn trafod sut gallwn ni amddiffyn ein hunain rhag dylanwad Satan nawr ac yn dangos beth fydd yn digwydd i Satan yn y dyfodol agos. Dyma’ch copi chi.”
Awake! Tachwedd
“Mae pawb eisiau bod yn hapus, ond heddiw mae llawer yn teimlo’n drist. Beth ydych chi’n ei feddwl sy’n dod â gwir hapusrwydd? [Arhoswch am ymateb.] Dwi wedi darganfod bod y Beibl yn gallu ein helpu ni i gael bywyd teuluol hapus. Er enghraifft, sylwch ar yr egwyddor yma sydd yn y Beibl. [Darllenwch Hebreaid 13:5.] Mae’r cylchgrawn yma yn trafod pedwar pwynt o’r Beibl a all ein helpu ni i fod yn hapus.”