Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Tachwedd
“Ydych chi’n meddwl bod pobl sy’n ceisio bod yn ufudd i Dduw yn fwy hapus? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r erthygl hon yn gwneud sylwadau diddorol.” Rhowch gopi Tachwedd 1 o’r Watchtower i ddeiliad y tŷ, darllenwch a thrafodwch y deunydd o dan un o’r is-benawdau ar dudalennau 16-17. Darllenwch o leiaf un o’r adnodau. Cynigiwch y cylchgronau, a threfnwch i alw’n ôl i drafod yr ateb i’r cwestiwn nesaf.
The Watchtower Tachwedd 1
“Mae rhai pobl yn meddwl bod barn y Beibl ynglŷn â rhyw yn hen ffasiwn ac yn rhy lym. Ond mae eraill yn cytuno â’r Beibl. Beth yw eich barn chi? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r adnod hon yn esbonio pwy sydd y tu ôl i egwyddorion y Beibl. [Darllenwch 2 Timotheus 3:16.] Mae’r cylchgrawn hwn yn dangos sut mae’r Beibl yn ateb deg cwestiwn cyffredin ynglŷn â rhyw. Y mae hefyd yn egluro sut mae safonau’r Beibl yn ein helpu ni.”
Awake! Tachwedd
“Wrth edrych yn ofalus ar y bydysawd o’n cwmpas, ydych chi’n credu mewn Creawdwr neu ydych chi’n credu bod popeth wedi digwydd drwy hap a damwain? [Arhoswch am ymateb.] Dyma beth ddywedodd un o ysgrifenwyr y Beibl pan edrychodd ar y bydysawd. [Darllenwch Rufeiniaid 1:20.] Mae’r cylchgrawn hwn yn trafod y pwnc drwy ystyried yr hyn mae gwyddonwyr wedi ei ddarganfod am y gell ddynol.”